Mae yna tua 22,000 o lywodraethwyr ysgolion yng Nghymru. Mae’n nhw’n rhoi o’u hamser, sgiliau ac arbenigedd yn wirfoddol i helpu eu hysgolion i ddarparu’r addysg gorau posibl i blant.
Mae cyrff llywodraethu’n atebol am gyfeiriad strategol eu hysgolion ac am ansawdd yr addysg a ddarperir.
Mae llywodraethwyr yn gweithio gyda phennaeth a staff yr ysgol i sicrhau bod ysgolion yn darparu addysgu a dysgu llwyddiannus i’n plant a chodi safonau.
Mae cyrff llywodraethu’n bodoli fel bod ysgolion yn gyhoeddus atebol i rieni, yr Awdurdod Lleol a’r gymuned leol am yr hyn y maen nhw’n ei wneud, am y canlyniadau y maen nhw’n eu cyflawni ac am y modd y mae adnoddau’n cael eu dyrannu.
Dyma rai cynghorion i fod yn llywodraethwr effeithiol:
- Man da i gychwyn ydy ceisio cael trosolwg o ble mae’r ysgol ar hyn o bryd. Edrychwch ar yr adroddiad arolygu diweddaf. Gallwch hefyd ddarllen cofnodion cyfarfodydd diweddar y corff llywodraethu llawn, adroddiad y pennaeth, cynllun datblygu ysgol ac yn y blaen, i gael syniad o brosiectau, materion cyfredol ac yn y blaen.
- Gofynnwch os oes modd i lywodraethwr arall fod yn fentor i chi. Gall eich mentor drafod meysydd datblygu gyda chi a sut y maen nhw’n cael eu trafod, nodi data yn adroddiad y pennaeth ac yn y blaen.
- Mynychwch gyfarfodydd y corff llywodraethu’n rheolaidd. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn dod i adnabod yr ysgol ac aelodau’r corff llywodraethu’n well.
- Byddwch yn drefnus gyda gwaith papur i gyfarfodydd. Darllenwch y papurau cyn y cyfafod a pharatowch unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn ynghylch y papurau hynny ac yn y blaen. Mae hyn yn dangos eich bod yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’.
- Peidiwch â bod ofn gofyn i lywodraethwyr eraill esbonio’r hyn y maen nhw’n ei drafod os nad ydych yn deall.
- Os ydych yn llywodraethwr newydd, peidiwch â disgwyl dod yn arbenigwr dros nos. Gofynnwch gwestiwn i sicrhau eich bod yn deall popeth.
- Mae’r math o drafodaeth a gewch fel llywodraethwr yn un strategol, ac nid yn un o ddydd i ddydd e.e. fe fyddwch yn monitro data ac yn edrych ar bolisïau ac yn y blaen. Parchwch gyfrifoldeb y pennaeth am y penderfyniadau o ddydd i ddydd wrth reoli’r ysgol.
- Edrychwch ar y data – sut y mae’r disgyblion yn perfformio – cymharwch hyn gyda’r blynyddoedd blaenorol. Ydy pethau’n gwella? Os na, pam? Gofynnwch y cwestiynau.
- Os ydy trafodaethau ac eitemau ar yr agenda yn cael eu hystyried yn gyfrinachol, gwnewch yn siwr nad ydy’r wybodaeth yma’n cael ei rhannu gyda neb arall y tu allan i’r corff llywodraethu.
- Mae pob llywodraethwr yn gyfartal felly cofiwch barchu barn eraill ac ymddwyn yn unol â hynny pan yn delio gyda chydweithwyr ar y corff llywodraethu.
- Os oes gennych ddiddordeb personol mewn pwnc sy’n cael ei drafod mewn cyfarfodydd, lle nad ydych efallai yn ddiduedd, dylech ddatgan diddordeb a gadael y cyfarfod.
- Mae cyrff llywodraethu yn gyrff corfforaethol, felly pan fyddwch yn gwneud penderfyniad, mynegwch eich barn a’ch meddyliau eich hun, ond unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud rhaid i’r llywodraethwyr sefyll wrth y penderfyniad corfforaethol hwnnw.
- Dydy cyfarfodydd corff llywodraethu ddim y lle cywir i godi pryderon am eich plant eich hun sydd efallai yn mynychu’r ysgol.
- Ymgyfarwyddwch gyda chylch gwaith pwyllgorau yr ydych yn aelodau ohonyn nhw’r.
- Mynychwch yr hyfforddiant gorfodol ac unrhyw hyfforddiant arall allai fod yn berthnasol i’ch rôl.
- Ydy’r corff llywodraethu wedi cynnal archwiliad sgiliau a nodi bylchau mewn sgiliau/arbenigedd? Oes yna rhywbeth y gallwch ei gynnig yma? Gwnewch argraff! Defnyddiwch eich sgiliau a’ch profiad er budd yr ysgol.
- Ymwelwch â’r ysgol fel llywodraethwr cyswllt, arsylwi disgyblion yn y dosbarth ac yn yr iard, gan edrych ar weithgareddau e.e. arsylwi dosbarthiadau, siarad gyda staff/disgyblion, edrych ar adnoddau ac yn y blaen. Beth wnaethoch chi ei ddysgu o ganlyniad i’ch ymweliad? Beth oedd yr argraff fwyaf o’r ymweliad – nodi sylwadau cadarnhaol am y ffocws ac yn y blaen.
- Os oes rhywun yn dod atoch gyda phryder am yr ysgol, cyfeiriwch nhw at yr ysgol ac/neu’r pennaeth. Mae ffyrdd iddyn nhw godi pryderon yn yr ysgol, a dydy mynd at lywodraethwr unigol ddim yn un o’r ffyrdd hynny.
- Cofiwch mai gwirfoddolwr ydych chi gyda rôl holl bwysig a mwynhewch y gwaith.
© Gwasanaethau Governors Cymru
Cyhoeddwyd: 29/08/2018