Mentora


Mae manteision mentora yn sylweddol. O ran llywodraethiant ysgolion, gall mentora effeithiol chwarae rhan allweddol wrth ddatyblgu gallu llywodraethwr i gymryd rhan yn effeithiol yng ngwaith y corff llywodraethu. Mae sawl gwahanol ffordd o fentora all fod o gymorth, dyma rai:

Fe fydd gan nifer o gyrff llywodraethu bolisi ar gyfer mentora llywodraethwyr sydd newydd eu penodi neu lywodraethwyr etholedig. Mae llywodraethwyr newydd yn gysylltiedig gyda llywodraethwr profiadol i’w helpu i ddeall yr holl jargon, gwybodaeth y corff llywodraethu, strwythurau a gweithdrefnau pwyllgorau. Fe fydd hyn yn gymorth i adeiladu ar y deunyddiau a rennir yn yr hyfforddiant anwytho gorfodol i lywodraethwyr newydd, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth anwytho gan yr ysgol a ddarparwyd eisoes. Fe fydd llawer wrth gwrs, yn dibynnu ar brofiad llywodraethwyr newydd. Amlinellir y tasgau penodol y gallai mentor lywodraethwr eu cyflawni yma:

  • tywys y llywodraethwr newydd trwy’r deunyddiau anwytho y maen nhw’n eu derbyn gan yr ysgol a’r Awdurdod Lleol / Consortiwm Rhanbarthol;
  • darparu trosolwg o rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr;
  • cyfarfod y llywodraethwr newydd cyn gynted â phosibl cyn cyfarfod cyntaf y Corff Llywodraethu, fel bod o leiaf un person yn y cyfarfod y mae’r llywodraethwr newydd yn ei adnabod; Gan fod y rhan fwyaf o gyfarfodydd bellach yn rhai rhithiol, dylai hyn fod yn hawdd i’w drefnu ac mae’n arwydd da i wneud i’r llywodraethwr newydd deimlo’n gartrefol;
  • esbonio sut y caiff cyfarfodydd corff llywodraethu eu cynnal e.e. mynd trwy’r papurau agenda, eu helpu gydag unrhyw jargon, trafod y materion sydd yn flaenoriaeth i’r ysgol ac all godi yn ystod y cyfarfod;
  • esbonio rheolau’r cyfarfod fel siarad trwy’r cadeirydd;
  • sicrhau bod y llywodraethwr newydd yn cael ei gyflwyno i aelodau eraill y corff llywodraethu yn y cyfarfod cyntaf;
  • eistedd gyda’r llywodraethwr newydd yn y cyfarfod cyntaf i ateb unrhyw gwestiynau gweithdrefnol neu unrhyw gwestiynau eraill;
  • darparu unrhyw wybodaeth gefndir neu ychwanegol am eitemau a drafodir yn dilyn eu cyfarfod cyntaf;
  • darparu cyngor ac eglurhad ar bob mater llywodraethu lle mae’n bosibl, a chyfeirio llywodraethwyr newydd at swyddogion priodol am wybodaeth bellach e.e. cadeirydd, clerc, y pennaeth, swyddog ALl ac yn y blaen;
  • helpu’r llywodraethwr newydd i nodi diddordebau a sgiliau all fod yn ddefnyddiol i’r corff llywodraethu;
  • esbonio pwysigrwydd hyfforddiant i lywodraethwyr a’r gofyniad i lywodraethwyr newydd fynychu hyfforddiant anwytho a hyfforddiant data Awdurdod Lleol.


Dyma restr wirio defnyddiol i sicrhau bod llywodraethwyr newydd wedi derbyn popeth maen nhw ei angen i ddechrau ar eu taith o lywodraethiant ysgol.


Mae dod yn Gadeirydd llywodraethwyr am y tro cyntaf yn brofiad anodd a thra bod angen i Gadeiryddion newydd fynychu hyfforddiant gorfodol i lywodraethwyr, gall manteision paru gyda Chadeirydd profiadol i ddarparu cefnogaeth a brwfrydedd fod yn rhywbeth i’w groesawu. Gallai’r mentor Gadeirydd fod yn Gadeirydd o ysgol sydd yn bwydo neu o ysgol glwstwr neu rhywun a argymhellir gan yr Awdurdod Lleol. Rôl y mentor fydd cynnig cefnogaeth yn seiliedig ar sgiliau, a blaenoriaethau’r cadeirydd newydd, yn ogystal â darparu profiad diweddar, yn cynyddu hyder yn y rôl.


Pan mae corff llywodraethu yn ystyried ei gynllunio olynnol ar gyfer safle’r Cadeirydd / Is-Gadeirydd mae’r dull mentora yn ffordd ddefnyddiol o annog pobl i ymgymryd â’r rolau yma.


Nid cadeiryddion newydd yn unig allai fanteisio ar fentora. Weithiau gall hyd yn oed Cadeirydd profiadol fod angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol, cymorth a chlust i wrando wrth wynebu problemau neu sefyllfaoedd newydd yn yr ysgol.


Mae rôl y clerc yn allweddol i rediad llyfn y corff llywodraethu. Heb glerc effeithiol gall gwaith y corff llywodraethu syrthio’n ddarnau. Yn dibynnu ar brofiad y clerc, gall fod yn rôl anodd ac felly i glercod newydd mae’n ddefnyddiol paru gyda chlerc profiadol fel mentor. Gallai hyn gynnwys y clerc blaenorol neu efallai glerc o ysgol clwstwr neu ysgol sydd yn bwydo. Gall yr Awdurdod Lleol roi cyfle i glercod ymuno â fforwm clercod. Mae hyn yn ffordd ddelfrydol i rannu syniadau a dysgu dulliau newydd o weithio. Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn darparu amrediad eang o gefnogaeth pwrpasol i glercod.


Fe fydd pob corff llywodraethu ar gamau gwahanol o ddatblygiad. Lle mae angen newid oddi mewn i gorff llywodraethu, mae edrych ar sut mae cyrff llywodraethu effeithiol yn gweithredu yn bwysig. Gall rhannu arfer effeithiol a chael llywodraethwr profiadol iawn neu Gadeirydd o’r tu allan fel mentor fod yn chwa o awyr iach. Mar gan rai awdurdodau lleol lywodraethwyr ymgynghorol sy’n cael eu defnyddio i gynorthwyo. Gall persbectif llywodraethwr allanol gan rhywun sydd yn gwybod ac yn deall rôl llywodraethwr yn drylwyr ac sydd ag ymagwedd diduedd, helpu i ddatblygu a gwella corff llywodraethu aneffeithiol yn gymharol gyflym. Dyma erthygl ddefnyddiol gan John Brown, llywodraethwr yn Ffederasiwn yr Enfys, Caerdydd ar ei rôl mewn Cefnogi Corff Llywodraethu.


Does neb yn ynys – mae mentora yn golygu gwrando, bod yn glust ac yn ffrind beirniadol, yn edrych ar beth sydd orau i’r ysgol, nodi’r fordd orau ymlaen, a chanolbwyntio ar flaenoriaethau datblygu ysgolion, a dysgu oddi wrth y nail a’r llall. Fe fydd rhagor i’w ddweud am hyn y tro nesaf!


© Gwasanaethau Governors Cymru

Cyhoeddwyd: 18/11/2020

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Llawrlwytho

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708