PWYLLGOR CYLLID

CYLCH GORCHWYL ENGHREIFFTIOL

Diben

Sefydlir y pwyllgor hwn i adolygu a chytuno ar gynigion yr ysgol ar gyfer y gyllideb ac argymell y gyllideb ddrafft i’r corff llywodraethu llawn ac i fonitro incwm a gwariant y mae’r llywodraethwyr a’r staff yn gyfrifol amdanyn nhw ac adrodd fel bo angen.

Aelodaeth

  • Nifer i’w gytuno arno gan y corff llywodraethu.
  • Y pennaeth.
  • Mae rhai nad ydyn nhw’n lywodraethwyr yn ddewisol ac fel rheol maen nhw’n cael eu penodi oherwydd eu sgiliau. Mae modd iddyn nhw gael pleidlais os ydy’r corff llywodraethu yn cytuno.
  • Rhaid i fwyafrif yr aelodau fod yn llywodraethwyr.
  • Mae’n arfer da cael odrif ar y pwyllgor gan ei fod yn helpu gyda phleidleisio.

Anghymhwyso

Dim.

Cyfyngiadau ar bersonau’n cymryd rhan mewn gweithrediadau

Disgybl lywodraethwyr cyswllt.
Llywodraethwyr sy’n gweithio yn yr ysgol pan mai’r pwnc dan sylw ydy datblygiad cyflog unrhyw berson a gyflogir i weithio yn yr ysgol.
Unrhyw lywodraethwr lle y gall fod yna fuddiant ariannol neu wrthdaro buddiant.

Ethol cadeirydd

Penodir gan y corff llywodraethu neu ei ethol gan y pwyllgor – i’w benderfynu gan y corff llywodraethu. Ni chaiff aelodau o’r staff a disgyblion cofrestredig yn yr ysgol fod yn gadeirydd pwyllgor.

Clerc

Gellir penodi clerc os oes angen. Gall y person sy’n clercio fod yr un person ag sy’n glerc i’r corff llywodraethu neu gall fod yn berson gwahanol.

Cworwm

Bydd y cworwm ar gyfer y pwyllgor hwn yn 50% o’r aelodaeth, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyflawn agosaf ac eithrio lleoedd gwag ac unrhyw lywodraethwyr sydd wedi’u gwahardd dros dro.

Pwerau dirprwyedig

Mae pwerau dirprwyedig llawn i wneud penderfyniadau wedi’u caniatáu i’r pwyllgor hwn gan y corff llywodraethu (ac eithrio ar gyfer cymeradwyo cyllideb flynyddol yr ysgol) hyd at derfyn ariannol o £xxxx. Rhoddwyd pwerau dirprwyedig am benderfyniadau dan £xxxx i’r pennaeth.


Cyfarfodydd

Fe fydd y pwyllgor yn cyfarfod o leiaf unwaith bob tymor.
Caiff cofnodion eu cymryd a’u cadw o bob cyfarfod gan y clerc neu’r person sy’n gweithredu fel clerc.
Caiff argymhellion / penderfyniadau’r pwyllgor eu dwyn gerbron y corff llywodraethu llawn er gwybodaeth / cadarnhad.

Cylch gorchwyl

  • Sicrhau bod yr ysgol yn gweithredu o fewn Rheoliadau Ariannol yr Awdurdod Lleol;
  • Darparu canllaw a chymorth i’r pennaeth a’r corff llywodraethu ar bob mater yn berthynol i gyllideb a chyllid;
  • Monitro incwm a gwariant;
  • Drafftio’r gyllideb yn unol â’r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynlluniau datblygu/gwelliant ysgol;
  • Cyflwyno’r gyllideb flynyddol ddrafft i’r corff llywodraethu llawn i’w hystyried a’i chymeradwyo erbyn 31 Mai bob blwyddyn;
  • Monitro lefelau staffio yn unol â’r gyllideb;
  • Gweithreu unrhyw bolisïau cyflogau;
  • Penderfynu a oes digon o gyllid ar gael i dalu cynyddrannau yn ôl argymhelliad y pennaeth / pwyllgor adolygu cyflogau;
  • Monitro tueddiadau mewn niferoedd disgyblion i asesu’r effaith ar ddyraniadau cyllideb;
  • Penderfynu ar ddirprwyo ariannol gan y corff llywodraethu llawn i’r pennaeth;
  • Dirprwyo i’r pennaeth y cyfrifoldeb o drosglwyddo hyd at £xxxx rhwng penawdau cyllideb ac i’r pennaeth, mewn ymgynghoriad gyda chadeirydd y corff llywodraethu a’r pwyllgor cyllid, i ryddhau hyd at £xxxx o fewn cyllideb yr ysgol. Adrodd am unrhyw drosglwyddiad i gyfarfod llawn nesaf y corff llywodraethu;
  • Penderfynu ar gostau gosod i ddefnyddwyr eraill adeiladau a thir yr ysgol;
  • Rheoli prosesau tendro a dyfarnu contractau gyda phwyllgorau perthnasol eraill;
  • Derbyn gwybodaeth am unrhyw addasiadau adfachu;
  • Ystyried y Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chontractau mewn ymgynghoriad gyda phwyllgorau priodol (ac eithrio clercio CLG y mae’n rhaid i’r corff llywodraethu llawn ei gytuno);
  • Adolygu gwariant gyda golwg ar gyflawni gwerth gorau;
  • Sicrhau bod archwiliad blynyddol o gyllid yr ysgol, yn cael ei gynnal gan berson annibynnol, a sicrhau bod canlyniadau’r adolygiad yn cael ei adrodd yn flynyddol i’r corff llywodraethu llawn;
  • Paratoi a chytuno ar ddatganiad ariannol i’w gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol i Rieni;
  • Gofyn am gyngor proffesiynol gan yr Awdurdod Lleol, Awdurdod Esgobaeth neu eraill, fel bo angen;
  • Mynychu hyfforddiant perthnasol fel bo’n briodol.



Dyddiad adolygu a mabwysiadu: …………………………………………………………………………………
Dyddiad yr adolygiad nesaf: …………………………………………………………………………………………
Llofnod cadeirydd y llywodraethwyr: ……………………………………………………………………………



© Gwasanaethau Governors Cymru

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708