Newyddion

Pam fod niferoedd ymgeiswyr Safon UG a Safon Uwch yn dal i ddisgyn yng Nghymru?

Gan Tom Anderson, Pennaeth Ymchwil ac Ystadegau, Cymwysterau Cymru

Dros yr haf llynedd, fe wnes i gyhoeddi blog ar bwnc y gostyngiad mewn ymgeiswyr ar gyfer Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru.

Mae ein ffigurau diweddaraf fyn dangos bod cyfanswm y bobl fu’n ymgeisio am gymwysterau Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru wedi gostwng eto haf eleni.

Eleni cafwyd 41,415 ymgeisydd Safon UG. Dyna leihad cyffredinol o 27.4%, o bwynt uchaf yr ymgeiswyr yn 2015, sef 57,030.

Yn yr un modd, ond nid mor ddramatig, lleihaodd niferoedd ymgeiswyr Safon Uwch gan 17% dros yr un cyfnod, o 38,480 yn 2015 i 31,925 yn 2019.

Felly beth allai esbonio’r gostyngiadau hyn?

Mae’n bwysig nodi ei bod hi’n debygol fod ystod o ffactorau ar waith i esbonio’r duedd, fel:

  • nifer is o boblogaeth, gan leihau’r nifer o ddysgwyr a allai ddewis sefyll Safon UG a Safon Uwch;
  • cwymp yn y nifer ar gyfartaledd o gymwysterau Safon UG a Safon Uwch a astudir gan ddysgwyr; a
  • chynnydd mewn dysgwyr sy’n dewis astudio cymwysterau eraill, cychwyn ar hyfforddiant neu ddechrau prentisiaethau.

Mae’r rhan fwyaf sy’n sefyll Safon UG yn ymgeiswyr 17 mlwydd oed, tra bo’r ymgeiswyr ar gyfer Safon Uwch yn 18 oed gan amlaf. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae’r niferoedd o fyfyrwyr mewn ysgolion a gynhelir wedi disgyn dros y blynyddoedd diwethaf. Er enghraifft, yn ystod y pedair blynedd rhwng 2013/14 a 2016/17, disgynnodd y nifer gan 9.2%. Mae hyn wedi lleihau’r niferoedd o ddysgwyr
a allai ddewis sefyll Safon UG a Safon Uwch yng Nghymru.

Bu i ni hefyd edrych ar ddata byrddau arholi ynghylch sawl dysgwr a lwyddodd i gael o leiaf un Safon UG, Safon Uwch neu Fagloriaeth Uwch Cymru.

Mae’r niferoedd o ran myfyrwyr Cymru a lwyddodd i gael o leiaf un o’r cymwysterau hyn hefyd wedi disgyn, gan 13.5% i ymgeiswyr 17 oed, ac 8.1% i ymgeiswyr 18 oed, (dros gyfnod y pedair blynedd rhwng 2014/15 a 2017/18). Mae cyfradd y lleihad ar gyfer ymgeiswyr 18 oed yn debyg, yn fras, i’r lleihad yn y niferoedd dysgwyr a geir ym Mlwyddyn 11, ond mae ychydig yn fwy serth ar gyfer ymgeiswyr 17 oed.

Awgryma’r tueddiadau hyn fod lleihad ym mhoblogaeth myfyrwyr 17 ac 18 oed yng Nghymru wedi bod yn brif achos y cwymp mewn ymgeiswyr ar gyfer cymwysterau Safon UG a Safon Uwch. Er hynny, fe all fod ffactorau eraill ar waith a allai gyfrannu at newidiadau mewn niferoedd ymgeiswyr, yn enwedig yn achos ymgeiswyr 17 oed.

Wrth gloddio’n fwy trwyadl drwy’r data, dangoswyd fod llai o ymgeiswyr 17 oed yn sefyll pedwar neu ragor o gyrsiau Safon UG, wrth i ragor o ddysgwyr ddewis astudio tri.

Ymysg y disgyblion 18 oed, y llwybr mwyaf poblogaidd yw dewis astudio ar gyfer tair Safon Uwch ynghyd â’r Fagloriaeth Uwch. Mae’r gyfran o ddisgyblion 18 oed sy’n sefyll o leiaf un Safon UG hefyd wedi lleihau, sy’n helpu i esbonio pam fod niferoedd ymgeiswyr UG wedi disgyn yn gynt nag ymgeiswyr Safon Uwch.

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708