Rydym yn falch iawn o lansio ein modiwl e-Ddysgu newydd Rôl Cefnogi a Herio y Corff Llywodraethu – sef y ffrind beirniadol – wedi’i ddylunio’n benodol i helpu llywodraethwyr newydd a phrofiadol gyda gwybodaeth ddefnyddiol, arfer effeithiol ac awgrymiadau i’ch cynorthwyo gyda’ch rôl bwysig o ran cefnogaeth a herio.
Bydd y modiwl rhyngweithiol hwn yn helpu i sicrhau eich bod yn darparu arweinyddiaeth ac atebolrwydd strategol gyda’ch corff llywodraethu i yrru’r ysgol yn ei blaen.
Mae diolch arbennig i Brifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth, gwaith partneriaeth parhaus a chyngor i gynhyrchu’r modiwl e-Ddysgu newydd hwn. Dywedodd Sue Diment – Rheolwr Partneriaethau Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae cefnogi llywodraethwyr ysgolion i gynyddu eu hyder a’u gwybodaeth gyda’u cyfrifoldebau niferus, yn ogystal â darparu cynnwys deniadol a fydd yn gwella’r ddarpariaeth hyfforddiant presennol i lywodraethwyr mor bwysig. Mae Gwasanaeth Governors Cymru yn un o’n partneriaid addysg yng Nghymru ac mae wedi bod yn bleser noddi a gweithio gyda nhw i ddatblygu’r modiwl dwyieithog rhyngweithiol hwn.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau yn fuan.
Os nad ydych wedi tanysgrifio i GCS ar hyn o bryd, beth am ymuno nawr i gael mynediad i amrediad o adnoddau a fydd yn:
– helpu i gynyddu effeithlonrwydd cyrff llywodraethu
– rhoi’r wybodaeth / newyddion diweddaraf i chi a sicrhau eich bod yn cydymffurfio
– arbed arian ac amser i chi.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708