Mae’r adroddiad yn edrych yn fanwl ar sut mae pob sector yng Nghymru yn perfformio. Gallwch weld trosolwg o bob sector, yn ogystal â themâu allweddol, astudiaethau achos ac adolygiadau thematig.
Mae’r adroddiad yn nodi bod hunanwerthuso yn ‘bryder system gyfan’. Yn sicr mae amrywiaeth yn y modd mae ysgolion a llywodraethwyr yn ymgymryd gyda’r maes gwaith hwn, ‘Yn rhy aml fodd bynnag, mae hunanwerthuso yn arwynebol, wedi ei yrru gan gydymffurfiaeth gyda diffyg canolbwyntio ar gynnydd dysgu’.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi gwaith ardderchog Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaerfyrddin mae ymgysylltiad llywodraethwyr a staff mewn hunanwerthuso yn flaenoriaeth uchel. Gwerth edrych arno.
Felly yn gyffredinol, digon i fyfyrio arno.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708