Diweddarwyd Chwefror 2026 – Prosbectysau ysgolion: canllawiau i benaethiaid a chyrff llywodraethuu
Nid yw cynnwys statudol y prosbectws wedi newid, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau o 2001 yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011.
NODYN – er nad yw Cytundeb Cartref-Ysgol yn ofyniad statudol mwyach, mae rhai ysgolion yn dal i ddewis cael hwn ar waith. Os felly, byddai’n ddefnyddiol cyfeirio ato ym mhrosbectws yr ysgol.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy: canllawiau anstatudol
Canllawiau ar gyfer darparwyr addysg ar rôl y person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal.
Person dynodedig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal mewn ysgolion: canllawiau
Canllawiau ar gyfer cynllunio a chynnal a chadw adeiladau a thir ysgol.
Written Statement: Progress update: National Behaviour Summit actions
Datganiad Ysgrifenedig: Gorchymyn Cyflog yn ymwneud â rhoi cyflog ac amodau arweinwyr i Gydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) 2025: diwygiedig Chwefror 2026
Datganiad y’r wasg – Datblygu adnoddau Cymru gyfan i gefnogi diogelwch mewn ysgolion
Mae adnoddau Cymru gyfan newydd yn cael eu datblygu i gefnogi’r canllawiau cyfredol ar gyfer ysgolion i ddelio ag achosion o arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysg.
Y pecyn cymorth addysg newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Mae’r pecyn cymorth hwn yn fersiwn sydd wedi’i diwygio, yn sgil cydnabod bod yr wybodaeth flaenorol wedi dyddio ac nad oedd y fformat yn ddefnyddiol nac yn hygyrch i weithwyr proffesiynol ar draws y maes addysg. Ein gobaith yw y bydd dod â’r holl wybodaeth hon at ei gilydd mewn un lle yn eich helpu i fanteisio ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys am ddiogelu mewn lleoliadau addysg.
Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel mewn ysgolion
Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn ffordd wych o rannu newyddion, dathlu cyflawniadau a chysylltu â chymuned ehangach yr ysgol. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod preifatrwydd a diogelwch pawb yn cael eu diogelu.
Er mwyn helpu ysgolion i lywio hyn, datblygwyd y canllawiau Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn partneriaeth â’r UK Safer Internet Centre. Mae’r canllawiau hyn yn arbennig o ddefnyddiol i uwch arweinwyr a staff sy’n gyfrifol am reoli sianeli cyfathrebu mewnol ac allanol. Mae’r canllawiau hyn yn arbennig o ddefnyddiol i uwch arweinwyr a staff sy’n gyfrifol am reoli sianeli cyfathrebu mewnol ac allanol.
Hyd yn oed os ydych eisoes yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, argymhellir eich bod:
– adolygu eich polisïau a’ch ymarfer yn rheolaidd
– cadw i fyny â diweddariadau platform
– sicrhau bod gan y platfform gosodiadau priodol ar gyfer defnydd yr ysgol
Casgliad – Monitro a gwerthuso diwygio’r cwricwlwm ac asesu.
Pa mor dda y mae diwygiadau cwricwlwm ac asesu yn gweithio ac yn helpu dysgwyr.
Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol
Canllawiau i gefnogi darparu a gwerthuso’r fframwaith. Mae’n cynnwys datblygu cynllun gweithredu gan ddefnyddio astudiaethau achos ac enghreifftiau o arfer da.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708