Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, mae’n bleser gan Gyrfa Cymru lansio Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru. Mae’r Wobr yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, gan gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed i greu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith (CWRE) o ansawdd uchel.
Mae’r wobr wedi’i strwythuro ar draws tri cham – Efydd, Arian ac Aur – gan arwain ysgolion o osod dull strategol clir o ran addysg gyrfaoedd, i ymwreiddio addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith yn y cwricwlwm, i ddangos y gwahaniaeth mae hyn yn ei wneud i ddysgwyr.
Ers ei lansio ym mis Medi 2023, mae 66 o ysgolion a lleoliadau o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan yng nghynllun peilot y wobr, gan gynnwys ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion a darpariaethau addysg heblaw yn yr ysgol.
Mae ysgolion peilot eisoes yn gweld manteision, gydag adborth yn tynnu sylw at y canlynol:
– Arweinyddiaeth a chynllunio cryfach ar gyfer CWRE
– Mwy o lais i’r dysgwr
– Gwell ymgysylltu â rhieni, cyflogwyr a chymunedau
– Mwy o hyder ymhlith athrawon wrth gyflawni dysgu sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd.
Mae’r canlyniadau cynnar hyn yn dangos sut y gall y wobr gefnogi ysgolion i adeiladu addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith ystyrlon, o ansawdd uchel i ddysgwyr rhwng 3 a 16 oed sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
Wrth i’r cyfnod peilot ddod i ben, mae cofrestru bellach wedi agor i ysgolion newydd gymryd rhan yng Ngwobr Ansawdd Gyrfa Cymru o fis Medi 2026 ymlaen.
Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan yn gweithio’n agos gyda Chydlynydd Cwricwlwm CWRE o Gyrfa Cymru sy’n cynnig cyfarfodydd ymgynghori misol ynghyd â mynediad at ddysgu proffesiynol priodol a chyfleoedd rhwydweithio i athrawon a llywodraethwyr.
Meddai Mark Owen, Pennaeth Gwasanaethau Rhanddeiliaid Gyrfa Cymru:
Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith o ansawdd uchel yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu dysgwyr i ddeall eu hopsiynau a datblygu’r hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. Mae’r wobr ansawdd yn rhoi fframwaith clir, cefnogol i ysgolion ymwreiddio’r gwaith hwn ar draws eu cwricwlwm, mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r effaith gadarnhaol rydyn ni eisoes yn ei gweld wedi creu cryn argraff arnom ac edrychwn ymlaen at groesawu mwy o ysgolion i gymryd rhan wrth i’r wobr agor yn ehangach yn ddiweddarach eleni.
I gofrestru’ch diddordeb mewn dechrau’r wobr ym mis Medi, llenwch y ffurflen hon, neu ewch i wefan Gyrfa Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708