Newyddion

Wyth mlynedd o gefnogi llywodraethu ysgolion yng Nghymru


Mae llywodraethwyr ysgolion yn gwneud rhai o’r penderfyniadau pwysicaf a mwyaf dylanwadol yn ein system addysg. Maent yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol eu hysgolion, penodi staff a phenderfynu ar gyllideb yr ysgol, ymhlith nifer o gyfrifoldebau eraill.

Fodd bynnag, pan sefydlwyd Governors Cymru Services gennym wyth mlynedd yn ôl y mis hwn, nid oedd sefydliad tebyg yn bodoli i ddarparu canllawiau annibynnol, cyngor a chymorth proffesiynol i gyrff llywodraethu a chlercod ledled Cymru.

Ein nod cyffredinol oedd helpu cyrff llywodraethu a chlercod i anelu at ragoriaeth yn hytrach na derbyn y status quo.

Gyda’r uchelgais honno mewn golwg, lansiwyd ein gwasanaeth tanysgrifio unigryw a dechreuwyd ar y daith i ddod yn bartner cymorth llywodraethu o ddewis yng Nghymru.


Y sefydliad o ddewis ar gyfer llywodraethu ysgolion

Heddiw, mae Gwasanaethau Governors Cymru yn gweithio gyda chyrff llywodraethu a chlercod mewn cannoedd o ysgolion ledled Cymru. Rydym hefyd wedi datblygu partneriaethau pwysig gyda nifer o awdurdodau lleol a sefydliadau addysg allweddol eraill, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.

Mae ein pecyn cymorth o ansawdd uchel wedi tyfu a datblygu dros y blynyddoedd. Mae’n cynnwys llinell gymorth gyfrinachol, E-fwletinau a diweddariadau polisi, modiwlau e-ddysgu, sesiynau briffio a hyfforddiant. Rydym hefyd wedi adeiladu llyfrgell adnoddau ar-lein sylweddol sy’n ymdrin â chyfrifoldebau llywodraethwyr, hunanwerthuso, polisïau, astudiaethau achos ac offer ymarferol ar gyfer llywodraethu.

Mae ein llinell gymorth wedi ehangu’n sylweddol ac erbyn hyn mae’n derbyn cannoedd o alwadau bob blwyddyn. Rydym yn helpu llywodraethwyr i lywio ystod eang o faterion a heriau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y pryder mwyaf cyffredin fu ymdrin â chwynion. Gall hyn fod yn heriol gan nad oes gan lawer o lywodraethwyr lawer o brofiad o drin cwynion, tra bod y materion eu hunain wedi dod yn fwyfwy cymhleth.

Mae llywodraethwyr a chlercod hefyd yn ceisio cyngor ynghylch ethol cadeiryddion ac is-gadeiryddion, gweithdrefnau pwyllgorau a chyfarfodydd, materion adnoddau dynol, a materion sy’n ymwneud â chyfrinachedd a diogelu data.

Y rhan fwyaf boddhaus o’n gwaith dros yr wyth mlynedd diwethaf fu clywed gan lywodraethwyr sy’n dweud wrthym fod ein cymorth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hysgolion. Mae’n hynod werth chweil pan fyddwn wedi gweithio gyda chorff llywodraethu ar feysydd penodol o’u gwaith, boed hynny drwy eu mentora drwy sefyllfa benodol neu eu helpu i adolygu a myfyrio ar eu Gwaith, yn enwedig pan fyddant wedyn yn mabwysiadu ein hawgrymiadau ar gyfer y camau nesaf.


Edrych tua’r dyfodol

Wrth inni ddechrau ar ein nawfed blwyddyn, mae’n bwysig ein bod yn edrych tua’r dyfodol, yn enwedig wrth i Lywodraeth Cymru adolygu llywodraethu ysgolion. Rydym yn croesawu’r adolygiad hwnnw ac yn edrych ymlaen at weld ei argymhellion. Mae natur llywodraethu ysgolion wedi sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae angen newidiadau i sicrhau bod y system yn parhau’n addas at ei diben.

Bydd Gwasanaethau Governors Cymru yn parhau i gefnogi llywodraethwyr a chlercod yn uniongyrchol tra hefyd yn hyrwyddo llywodraethu effeithiol yn ehangach, gan sicrhau bod llais llywodraethwyr yn cael ei glywed ar lefel genedlaethol.

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys ehangu ein darpariaeth e-ddysgu ac ehangu ein sylfaen danysgrifwyr. Ein nod hefyd yw sicrhau bod Gwasnaethau Governors Cymru yn parhau’n arwain y ffordd ym maes llywodraethu ysgolion yng Nghymru ac yn cael ei chydnabod fel llais llywodraethwyr gan lunwyr polisi, awdurdodau lleol a sefydliadau eraill.

Bydd ein cenhadaeth graidd yn aros yr un fath: hyrwyddo a dathlu llywodraethu effeithiol, a rhannu arferion da lle bynnag y gallwn.

Diolch i chi am fod yn rhan o’n taith dros yr wyth mlynedd diwethaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld beth ddaw yn sgil y dyfodol.

I ddysgu mwy am fanteision tanysgrifio i Wasanaethau Governors Cymru, ewch i’n gwefan: https://www.governors.cymru/tanysgrifiadau/







Jane Morris a Sam MacNamara
Cyfarwyddwyr – Gwasanaethau Governors Cymru

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708