Newyddion

Romodels: yn helpu pob plentyn yn eich ysgol i gredu "gallwn i fod fel hyn!"





Fel llywodraethwr, rydych chi eisoes yn gofyn y cwestiynau mawr: a yw ein holl ddisgyblion yn cael yr un cyfleoedd, waeth beth fo’u cefndir? A yw ein cwricwlwm yn wirioneddol ehangu gorwelion? A yw’r bwlch uchelgais yn cau, neu’n tyfu?

Elusen addysg yw Romodels sy’n gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i agor byd o bosibiliadau gyrfaol i blant rhwng 4 ac 14 oed, drwy ein Porth Dysgu Romodels dwyieithog. Rydym yn cysylltu dysgwyr â modelau rôl amrywiol, go iawn, o gymunedau ledled Cymru, sef modelau rôl sy’n rhannu mewnwelediad i’w taith yrfaol ac sy’n gosod heriau diddorol, real, wedi’u hysbrydoli gan realiti bob dydd eu swyddi. Hyd yma, rydym wedi ysbrydoli dros 15,000 o ddysgwyr ledled Cymru i gredu “gallwn i fod fel hyn!”

Mae ein Romodels yn cwmpasu ystod eang o yrfaoedd a chymunedau. Maen nhw’n cynnwys Ashton, ymgyrchydd gwrth-hiliaeth ac aelod o fwrdd Gemau’r Gymanwlad Cymru; Abi, ffermwr a llywydd NFU Cymru; Maire, rhagolygydd tywydd y gofod; Emily, darlunydd y dilyniant i lyfrau Roald Dahl; Adam, dyfeisiwr a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobr Earthshot, a Hannah, rheolwr adran achosion brys Ysbyty Plant Alder Hey. Mae pob un yn dod â’u taith eu hunain i’r ystafell ddosbarth, fel bod dysgwyr yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn gyrfaoedd na fyddent efallai erioed wedi’u hystyried.

Mae ein model addysg, sy’n seiliedig ar ymchwil, yn dilyn tri cham:

Darganfod: Fideos sydd wedi’u teilwra, sy’n addas i’r oedran, ac sy’n dod â hanesion bywyd a gyrfa Romodels yn fyw.

Profi: heriau ymarferol, real, sydd wedi’u mapio i’r Cwricwlwm i Gymru sy’n rhychwantu pob Maes Dysgu a Phrofiad ac sydd wedi’u gwahaniaethu yn ôl y Camau Cynnydd, sy’n galluogi dysgwyr i gamu i mewn i’r rôl honno.

Credu: disgrifiadau swyddi bach sy’n cysylltu dysgu yn yr ystafell ddosbarth â chyfleoedd y byd go iawn.

Mae gennym 89 o ysgolion partner ledled Cymru. Mae ein dull gweithredu wedi’i seilio ar dystiolaeth ac wedi’i fireinio mewn partneriaeth ag ysgolion; mae ein partneriaid mwyaf arloesol yn defnyddio Romodels am hyd at 80 diwrnod y flwyddyn. Y newid a welwn mewn athrawon a dysgwyr yw’r dystiolaeth orau o’n llwyddiant. Canfu data o’n harolwg diweddaraf y gwelliannau canlynol:

– “Mae fy nysgwyr yn dyheu am lawer o wahanol yrfaoedd” o 13% i 69% (+56)

– “Mae fy nysgwyr yn credu bod unrhyw yrfa’n bosibl yn y dyfodol” o 25% i 92% (+67)

– “Gall fy nysgwyr osod nodau realistig a chredu y gallant eu cyrraedd” o 17% i 94% (+77)

Cafodd un o’n hysgolion partner, Ysgol Gynradd Maesycwmmer, sylw arbennig gan Estyn am ei gwaith ar brofiadau’n ymwneud â gyrfaoedd a byd gwaith. Cafodd ysgol arall, Fairoak, ei nodi gan Lywodraeth Cymru am ei chwricwlwm dilys a’i modelau rôl real. Dyma fideo i glywed gan arweinwyr a dysgwyr Ysgol St Gwladys am yr effaith y mae Romodels wedi’i chael ar eu hysgol. Hoffech chi weld effaith debyg yn eich ysgol chi?

Byddem wrth ein bodd yn cydweithio i gefnogi blaenoriaethau eich cynllun datblygu ysgol a helpu i adeiladu cwricwlwm sydd wedi’i gyd-destunoli hyd yn oed yn fwy, sy’n diwallu anghenion eich dysgwyr. Am gyfwerth â £5 y disgybl, mae’n ffordd gost-effeithiol o godi uchelgeisiau ar draws eich ysgol. Gyda’n gilydd, rydym yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, pobl greadigol, peirianwyr, entrepreneuriaid, hyrwyddwyr newid ac arloeswyr.

E-bostiwch ni i drefnu amser i sgwrsio: [email protected] neu [email protected]

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708