Newyddion

Diweddariadau Cenedaethol - Medi 2026


Ymgynghoriadau
Dweud eich dweud ar hyn sy’n digwydd mewn addysg

Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau drafft i ysgolion
Mae’r canllaw drafft yn anelu at:
– darparu cyfarwyddyd cenedlaethol cliriach wrth gynnal hyblygrwydd lleol
– cefnogi ysgolion i ddatblygu polisïau ffonau symudol clir, cyson a chymesur
– lleihau tynnu sylw yn yr ystafell ddosbarth a gwella gallu dysgwyr i ganolbwyntio, yn ogystal â’u hymgysylltiad a’u cyrhaeddiad
– hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a chynyddu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio wyneb yn wyneb
– helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag seiberfwlio, cynnwys ar-lein niweidiol a phwysau cyfryngau cymdeithasol
– gwella llesiant a diogelwch dysgwyr

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 2 Rhagfyr 2026

Diweddariadau Cenedaethol

Rhaglen lywodraethu 2026 i 2030: Uchelgais newydd i Gymru
Mae Pennod 4 yn ymwneud â Chodi safonau yn ein hysgolion, a sicrhau’r amodau gorau ar gyfer dysgu.

Cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol
Camau gweithredu i gryfhau llythrennedd a rhifedd ledled Cymru, gan helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Diweddarwyd Medi 2026 – Herio bwlio (hawliau, parch, cydraddoldeb): canllawiau ar gyfer ysgolion

Newidiadau i’r gyfraith ar drefniadau derbyn
Canllawiau ar newidiadau i’r gyfraith ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Adroddiad thematig Estyn – Datblygu parch a dealltwriaeth: Ansawdd ac effaith addysg cydberthynas a rhywioldeb mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion

Ymateb Llywodraeth Cymru yma.

System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): eich hawliau
Esbonio’r hawliau sydd gan blant, pobl ifanc a’u rhieni o dan y system System Anghenion Dysgu.

Prydau ysgol am ddim: gwybodaeth i awdurdodau lleol ac ysgolion
Canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar feini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Lleihau’r llwyth gwaith i ymarferwyr ysgol: diweddariad ar y cynnydd
Llythyr gan y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg. Mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ein camau i gefnogi arweinwyr ac ymarferwyr dosbarth.

Diweddarwyd Gorffennaf 2026 – Codau presenoldeb ysgol: canllawiau
Y codau y mae’n rhaid i ysgolion eu defnyddio wrth gofnodi gwybodaeth am bresenoldeb.

Diweddarwyd Awst 2026 – Canllawiau presenoldeb yn yr ysgol a gwyliau crefyddol
Dyddiadau arferion a gwyliau crefyddol ar gyfer 2026 a 2027. Mae’n cynnwys canllawiau i benaethiaid ar ganiatáu absenoldeb awdurdodedig.

Canllawiau statudol ar gynlluniau ar gyfer cyllido ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol
Rhaid i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau hyn pan fyddant yn diwygio eu cynlluniau, mewn ymgynghoriad â’r fforwm ysgolion.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708