Newyddion

lerc i'r llywodraethwyr: Ewch y tu hwnt i'r pethau sylfaenol gyda'n cyfres e-ddysgu 4 rhan


Yn barod i fynd â’ch sgiliau clercio i’r lefel nesaf?


Mae ein Cyfres e-ddysgu Clercod pedair rhan wedi’i chynllunio i helpu clercod i ddatblygu eu gwybodaeth, cryfhau eu sgiliau a meithrin hyder yn eu rôl.

Er bod hyfforddiant clercod gorfodol yn darparu sylfaen hanfodol, mae ein modiwlau’n mynd ymhellach, gan archwilio agweddau allweddol ar glercio yn fanylach a helpu clercod i ddatblygu eu harfer.

Mae’r pedwar modiwl yn cwmpasu:

  • Modiwl 1: Clercio Llwyddiannus – deall sylfeini clercio effeithiol.
  • Modiwl 2: Ysgrifennu Cofnodion Uwch – datblygu’r sgiliau i gynhyrchu cofnodion clir, cywir ac effeithiol.
  • Modiwl 3: Clercio a Phwyllgorau – archwilio ymarferoldeb cefnogi pwyllgorau’n effeithiol.
  • Modiwl 4: Clercio fel Gweithiwr Proffesiynol Llywodraethu – datblygu dull proffesiynol o’r rôl.

Wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer clercod cyrff llywodraethu yng Nghymru, mae’r gyfres yn cynnig dysgu ymarferol y gellir ei gymhwyso’n uniongyrchol i’r rôl.

Ewch y tu hwnt i’r pethau sylfaenol. Datblygwch eich arbenigedd. Cryfhewch eich arfer.

Dysgwch fwy am y modiwlau a’r opsiynau mynediad yma.


Buddsoddwch yn eich datblygiad proffesiynol gyda Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru.


Os yw’ch corff llywodraethu yn tanysgrifio ar hyn o bryd, mae Modiwl 1 wedi’i gynnwys yn y tanysgrifiad.

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708