Cyhoeddwyd Adroddiad Blynyddol Estyn ar 11 Chwefror – darllenwch yma.
O safbwynt y llywodraethwr, bu enghreifftiau o waith da yng Nghymru, gydag arweinyddiaeth a llywodraethu yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, Sir Gaerfyrddin yn arbennig o gryf gyda’u rôl hunanwerthuso. Fodd bynnag, mae amrywiaeth yng Nghymru o ran y canlynol:
– cyfranogiad llywodraethwyr mewn gweithgareddau hunanwerthuso;
– gallu llywodraethwyr i herio arweinwyr ysgolion; a
– deall cryfderau a gwendidau’r ysgolion.
Gyda’r mewnwelediadau yn adroddiad blynyddol Estyn ynglŷn â llywodraethu a hunanwerthuso, roeddem yn meddwl y byddem yn canolbwyntio’r ychydig efwletinau nesaf ar rôl y corff llywodraethu mewn hunanwerthuso – eu hunain, ac adroddiad hunanwerthuso ysgolion.
Mae Rhan 1 yn canolbwyntio ar beth sy’n gwneud corff llywodraethu da.
Er mwyn i ysgolion berfformio ar lefel uchel mae angen i’r corff llywodraethu fod yn ‘dîm sydd yn perfformio’n uchel’, yn gweithio’n effeithiol gyda thîm arweinyddiaeth yr ysgol a phartneriaid eraill.
Mae hunanwerthuso yn werthusiad gonest a manwl o berfformiad yn seiliedig ar y dadansoddiad o wybodaeth a data cywir a diweddaraf o amrediad o ffynonellau priodol y gellir eu defnyddio i nodi cryfderau, gwendidau, cyfleoedd ar gyfer gwelliant a bygythiadau i ddyheadau’r ysgol. Diben y gyfres yma yw cynorthwyo llywodraethwyr i ddeall eu rôl mewn monitro ac adolygu perfformiad a’u cyfraniad i’r broses hunanwerthuso.
Mae dwy agwedd wedi’u cysylltu’n agos i hunanwerthuso llywodraethwyr:
a) hunanwerthuso eu perfformiad eu hunain
b) eu cyfraniad i hunanwerthuso’r ysgol o’i pherfformiad.
Dylai fod gan y corff llywodraethu ac uwch dîm arweinyddiaeth yr ysgol weledigaeth neu fodel cyffredin o’r hyn yw da ar gyfer eu hysgol. Bydd y weledigaeth wedi’i datblygu o’u profiad proffesiynol ar y cyd, ynghyd â’r wybodaeth a gasglwyd gan y tîm arweinyddiaeth i baratoi’r Cynllun Datblygu Ysgol.
Dylai llywodraethwyr sefydlu’r blaenoriaethau a’r targedau ar gyfer gwelliant. Dylid ymgorffori’r blaenoriaethau ar gyfer gwelliant ysgol yn y Cynllun Datblygu Ysgol a dylai’r holl dargedau a’r amcanion fod yn SMART:
– Penodol – gwneud yr amcan yn glir a diamwys;
– Mesuradwy – hwyluso monitro cynnydd;
– Cytun – gyda’r person(au) y disgwylir iddynt gyflwyno’r amcan;
– Realistig – ymestyn, ond o fewn cyrraedd ac yn werth ymdrechu tuag ato;
– Yn seiliedig ar amser – sefydlu disgwyliadau clir ar gyfer cwblhau’r amcan.
Fe ddylai’r adroddiad hunanwerthuso ddelio gydag anghenion y Fframwaith Arolygu Estyn, ynghyd ag adborth ar flaenoriaethau cynllun datblygu’r ysgol.
Bydd corff llywodraethu rhagorol eisiau gwybod pa effaith mae ei arweinyddiaeth strategol, ei weledigaeth a’i bolisïau yn eu cael ar:
– targedau a’r canlyniadau dymunol a nodir yn y Cynllun Datblygu Ysgol;
– cymeriad addysgol yr ysgol;
– y rôl/rolau y mae’r ysgol yn ei chwarae yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu;
– y ddelwedd sydd gan yr ysgol ymysg y gymuned ehangach.
Pa bynnag ddull y mae’r corff llywodraethu yn ei ddewis i werthuso ei effeithlonrwydd ei hun ac effeithlonrwydd yr ysgol, mae’n bwysig bod yn realistig ac yn systematig. Y man cychwyn ar gyfer gwelliant ydy hunanwerthuso beirniadol ac arfarniadau yn seiliedig ar dystiolaeth i lywodraethwyr ofyn cwestiynau sy’n creu gwelliant – sut i fynd o dda i ardderchog? Os yw hunanwerthuso yn anghywir neu yn anghyflawn, bydd y man cychwyn ar gyfer gwelliant yn anghywir a gellir gwastraffu cryn dipyn o amser ac adnoddau ar geisio adeiladu ar gyfer llwyddiant ar sylfaen gwan.
Dylai cyrff llywodraethu gael effaith uniongyrchol ar bob agwedd o arweinyddiaeth a dylanwad anuniongyrchol ond cryf ar ansawdd yr addysgu a’r dysgu (e.e. adnoddau ar gyfer yr amgylchedd dysgu, polisïau, penderfyniadau ar y cwricwlwm, staffio, cysylltiadau llywodraethwyr gyda meysydd y cwricwlwm). Dylai nodweddion tîm sydd yn perfformio’n fod yn amlwg. Hefyd, dylai cyrff llywodraethu allu arddangos y canlynol.
a) Sut y maent wedi gwneud gwahaniaeth trwy ganolbwyntio ar gyflawniad a chyrhaeddiad disgyblion (yn cynnwys cyfranogiad disgyblion). Sut y maent wedi sefydlu dealltwriaeth glir o anghenion a disgwyliadau disgyblion a rhan ddeiliaid eraill (staff, rhieni, cyflogwyr, y gymuned leol, Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru) a sut y maent wedi gallu ymateb yn briodol. Sut y maent wedi datblygu, gweithredu ac adolygu polisïau, strategaethau, targedau ac amcanion. Sut y mae eu hysgol wedi diwallu neu wedi mynd y tu hwnt i’w thargedau o ran cyflawniad a chyrhaeddiad ar draws amrediad cynhwysfawr o ganlyniadau ar draws eu hysgol.
b) Sut y maent wedi gallu nodi a gwahaniaethu rhwng anghenion a disgwyliadau grwpiau o ddisgyblion, rhieni a’r gymuned a wasanaethir. Pan fo pethau’n mynd o chwith, sut y maent wedi gallu ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Sut y maent wedi rheoli newid er mwyn sicrhau gwelliant parhaus.
c) Sut y maent wedi darparu arweinyddiaeth a chysondeb pwrpas (canolbwyntio ar nodau hir dymor) sydd wedi nodi’n glir eu disgwyliadau a’u gweledigaeth ar gyfer eu hysgol. Sut y maent wedi sefydlu gwerthoedd, safonau a strwythur llywodraethu sydd yn denu ffyddlondeb ac ymrwymiad i gyflawni nodau’r ysgol. Sut y maent wedi deall y gwahaniaeth rhwng llywodraethu a rheoli.
d) Sut y maent wedi deall rhyngddibyniaeth systemau a phrosesau a sut mae’r ysgol yn gweithio. Sut y maent wedi diffinio’r ffactorau llwyddiant holl bwysig a’r prosesau allweddol sydd yn hanfodol i lwyddiant yr ysgol. Sut y mae cyfarfodydd wedi canolbwyntio ar ffeithiau a data perfformiad. Sut mae penderfyniadau wedi’u seilio ar wybodaeth ddibynadwy. Sut y mae’r holl risgiau i berfformiad wedi’u codi, yn cynnwys cyfyngiadau cyllidebol, a chynlluniau wedi’u creu i’w lleihau neu i’w dileu.
e) Sut y maent wedi recriwtio a chadw athrawon a staff cymorth o ansawdd uchel. Sut y mae datblygiad proffesiynol parhaus wedi’i hyrwyddo a’i gefnogi er mwyn gwella sgiliau a phrofiad staff i ddiwallu galwadau yn y dyfodol. Sut y maent wedi sicrhau bod staff yr ysgol yn derbyn gofal a bod eu hymdrechion yn cael eu cydnabod, gan adeiladu diwylliant o barch ac ymddiriedaeth lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cymryd rhan ac wedi’u grymuso i weithredu eu syniadau ar gyfer gwelliant.
f) Sut y maent wedi herio’r status quo a defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o adolygiadau perfformiad mewnol ac adolygiadau darparwyr dysgu eraill i arloesi a chreu cyfleoedd am welliant. Sut y mae meincnodi mewnol ac allanol wedi’u defnyddio’n systematig i nodi dulliau mwy effeithiol o wneud pethau. Sut y mae staff wedi cael eu hannog i edrych i’r dyfodol ac ehangu eu sgiliau a’u profiadau eu hunain i godi safonau’r ysgol.
g) Sut y maent wedi adeiladu partneriaethau llwyddiannus gyda, er enghraifft, ysgolion eraill, cyflogwyr, sectorau o’r gymuned, sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch, ac Awdurdod Lleol, canolbwyntio ar gyflwyno rhagor o werth i ddisgyblion a rhieni a gwella gallu’r ysgol i ddiwallu disgwyliadau rhan ddeiliaid.
h) Sut y maent wedi mabwysiadu ymagwedd hynod o foesegol tuag at gyfrifoldebau’r ysgol. Sut y maent wedi ystyried yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a’r gymuned leol a sut y caiff hyn ei adlewyrchu yn y gwerthoedd y maent wedi’u hyrwyddo a’u hintegreiddio i bopeth a wna’r ysgol.
Dylai cyrff llywodraethu weithio tuag at ddod yn dîm hynod effeithiol, gan mai dyma’r ffordd orau i gorff llywodraethu helpu ei ysgol i berfformiad uchel neu’n rhagorol. Elfen hanfodol o dîm sy’n gweithio’n dda yw rheoli cyfarfodydd yn dda, ac er mwyn i gyfarfod fod yn bwrpasol ac yn wrthrychol, mae’n rhaid i chi fod yn glir am yr hyn rydych chi’n ceisio ei gyflawni, a chyflawni’r canlyniad a ddymunir.
Mae gennym adnoddau yn y meysydd hyn ar gyfer tanysgrifwyr:
– Y Corff Llywodraethu – Tim Effeithiol
– Sut i wneud eich cyfarfodydd yn fwy effeithiol
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708