Llywodraethwr Cyswllt Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)


Fe ddylai’r Pennaeth (neu’r Cydlynnydd ADY) adrodd yn rheolaidd I’r corff llywodraethu ar ADY yn yr ysgol, ond gall y corff llywodraethu ddymuno penodi llywodraethwr ar fyder ADY I gefnogi a chynorthwyo’r corff llywodraethu I gael gwell dealltwriaeth a gwybodaeth am ADY yn yr ysgol. Mae bod yn llywodraethwr gyda chyfrifoldeb dros ADY yn golygu gwneud eich gorau i sicrhau bod disgyblion ag ADY yn cael y cymorth a’r gefnogaeth y maen nhw eu hangen i gael mynediad i’r cwricwlwm a chymryd rhan cyflawn ym mywyd yr ysgol. Mae’r rôl yn cynnwys:

  • cadarnhau bod gan yr ysgol bolisi ADY a’i fod yn cael ei adolygu’n flynyddol. *Fe ddylai ysgolion gyfeirio at y Cod ADY gan fod y Cod ADY yn gyfuniad o’r gofynion cyfreithiol, canllaw statudol a chanllaw anstatudol;
  • derbyn gwybodaeth am fentrau ADY, yn genedlaethol ac yn lleol, gan Lywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol;
  • deal rôl a chyfrifoldebau’r Cydlynnydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) yn yr ysgol;
  • gweithio gyda’r llywodraethwr cyswllt amddiffyn plant (os yn briodol);
  • deall sut y mae’r ysgol yn adnabod disgyblion ag ADY a beth sy’n digwydd unwaith y bydd disgybl wedi’i adnabod;
  • bod yn ymwybodol o oynion cynnwys cyffredinol ar gfyer y Cynluniau Datblygu Unigol (CDU);
  • bod yn ymwybodol o’r cynnydd y mae disgyblion gydag ADY yn ei wneud;
  • bod yn ymwybodol o’r gyllideb sydd ar gael i ADY yn yr ysgol a monitro ei ddefnydd effeithiol;
  • adrodd, yn flynyddol o leiaf, i’r corff llywodraethu ar weithrediad ac effeithlonrwydd polisi ADY yr ysgol, heb drafod manylion disgyblion unigol;
  • ysgrifennu, neu helpu i ysgrifennu, gwybodaeth ADY ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni
  • sicrhau bod adran yn llawlyfr yr ysgol ar ddarpariaeth ADY; a
  • diweddaru gwybodaeth ADY trwy fynychu cyrsiau hyfforddi perthnasol sy’n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol.


Adnoddau
Cwrs e-ddysgu: Cyflwyniad i’r system anghenion dysgu ychwanegol newydd yng Nghymru
Anghenion dysgu ychwanegol: dysgu proffesiynol ar gyfer penaethiaid
Egwyddorion Anghenion Dysgu Ychwanegol: hyfforddiant ar-lein ar gyfer ymarferwyr mewn rolau statudol



© Gwasanaethau Governors Cymru – Mai 2026

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708