Annog mwy o ymgysylltiad gan lywodraethwyr

Cipolwg – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Mae’n anodd deall pam mae rhai llywodraethwyr yn fodlon mynychu cyfarfodydd ond yn teimlo nad oes ganddynt lawer i’w ychwanegu pan fyddant yn y cyfarfodydd ac nad ydynt yn gwirfoddoli ymgymryd â gwaith wedi hynny. Gallai fod oherwydd diffyg hyder yn y gwerth y gallant ei ychwanegu.


Beth ddigwyddodd?
Cychwyn asesiad sgiliau i ddeall yr hyn y gall pob llywodraethwr ei gynnig a rhannu’r asesiadau hynny â’r corff cyfan. Gwella strwythur a phroses cadeirio cyfarfodydd i ofyn i aelodau gyfrannu’n benodol pan fydd pwynt trafod yn cyfateb i’w maes arbenigedd.


Pa wersi a ddysgwyd?
Gwnaed hyn mewn ysgol flaenorol ac rydw i wedi symud ymlaen i rywle arall bellach.


Sylwebaeth
Mae gan lywodraethwyr ysgolion lawer o gyfrifoldebau. Mae sicrhau bod yr holl lywodraethwyr yn ymwneud yn llawn yn allweddol i gorff llywodraethu effeithiol, ond nid yw hyn yn golygu bod rhaid i lywodraethwyr unigol ymwneud â phob agwedd ar waith y corff llywodraethu.

Byddai’n beth da i’r corff llywodraethu gynnal archwiliad sgiliau i ddechrau. Mae hyn yn ffordd wych o asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad llywodraethwyr ac yn galluogi’r corff llywodraethu i ganfod bylchau, pa hyfforddiant y mae ei angen, a’r ffordd orau o ddefnyddio sgiliau’r llywodraethwyr yn bwrpasol. Os oes gan lywodraethwyr unigol arbenigedd mewn meysydd penodol, gall y corff llywodraethu fanteisio ar hyn i gryfhau maes penodol o’i waith. Er enghraifft, gallai llywodraethwr a chanddo arbenigedd ariannol gynorthwyo â gwaith y pwyllgor cyllid.

Mae enghraifft o archwiliad sgiliau ar gael yma.

Mae angen i gyfarfodydd corff llywodraethu fod yn effeithlon, ond mae angen i hinsawdd y cyfarfod fod yn agored ac yn dryloyw hefyd, ar yr un pryd â chreu amgylchedd sy’n ffafriol i ofyn cwestiynau heriol a chefnogol. Nid yw llywodraethwyr yno i roi sêl bendith ar benderfyniadau yn unig, wedi’r cyfan. Rhoddir rhai awgrymiadau defnyddiol yma.

Yn ogystal â’r uchod, bydd corff llywodraethu sydd wedi datblygu gwaith tîm effeithiol, yn ogystal ag ymagwedd fentora ar gyfer llywodraethwyr newydd, fel arfer yn rhagweithiol wrth ddatblygu a rhannu meysydd gwaith allweddol, er enghraifft trwy waith llywodraethwr cyswllt, pwyllgorau a gweithgorau.

Y Corff Llywodraethu – Tim Effeithiol

Cynghorion i Lywodraethwyr

Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd rhagorol o annog llywodraethwyr i ymwneud yn llawn o’r cychwyn. Beth am rannu ffyrdd eraill o weithio y gallai eich corff llywodraethu fod wedi’u gweithredu i annog llywodraethwyr i ymwneud yn llawn?


Myfyrdodau…
A yw’ch ysgol yn cynnal archwiliad neu asesiad sgiliau? A fu’n ddefnyddiol? Pa broblemau, os o gwbl, a achosodd hyn?
Beth mae eich Corff Llywodraethu yn ei wneud i annog mwy o ymgysylltiad gan yr holl lywodraethwyr?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708