Sut i fynd i’r afael â diffyg cyllidebol

Trafodaeth- Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Roedd y gyllideb yn annigonol i ddarparu’r cwricwlwm ac ychwanegu gwerth at ddysgu’r myfyrwyr. Roedd hyn yn anodd oherwydd bu’n rhaid lleihau nifer y staff i gyflawni cyllideb gytbwys ac yna roedd rhieni’n pryderu pan leihawyd oriau cynorthwywyr addysgu.


Beth ddigwyddodd?
Gwnaethom lobïo’r Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru. Gwnaeth y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon fwy o ymdrech i godi arian a cheisiwyd rhywfaint o gyllid grant i helpu i ddarparu’r cwricwlwm.


Pa wersi a ddysgwyd?
Dim ond yn rhannol y gwnaethom lwyddo i wneud iawn am y diffyg cyllidebol, a cheir pryderon difrifol nad yw’r dull hwn o ategu’r gyllideb yn gynaliadwy yn y tymor hir.


Sylwebaeth
Un o brif rolau’r corff llywodraethu yw gosod blaenoriaethau ariannol ar gyfer yr ysgol a monitro gwariant yn erbyn cyllideb yr ysgol. Er bod cyllid yn cael ei ddyrannu o flwyddyn i flwyddyn (yn dibynnu ar niferoedd disgyblion, yn bennaf), mae’n arfer gorau i’r corff llywodraethu a staff yr ysgol gynllunio’r gweithgareddau gwella ysgol dros gyfnod o dair blynedd. Bydd angen adolygu hyn pan fydd y gyllideb wedi cael ei chytuno ym mis Mai bob blwyddyn. Mae Pennod 8 y Canllaw i’r Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion yn rhoi trosolwg defnyddiol o reoli cyllideb yr ysgol.

Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw ar gyllid ysgolion hefyd a allai fod yn ddefnyddiol. Mae’n cynnwys gwybodaeth am rôl y pwyllgor cyllid, cysylltu’r gyllideb â’r Cynllun Datblygu Ysgol, a chwestiynau y gallai llywodraethwyr eu gofyn wrth drafod a gwerthuso cyllid yr ysgol, yn ogystal â deunydd cyfeirio ychwanegol.

Mae’n amlwg y bydd ymgeisio am grantiau, derbyn nawdd a rôl y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon wrth godi arian at ddibenion penodol o gymorth ac yn ganmoladwy iawn. Fodd bynnag, byddai lefel y cyllid a godir yn sicr yn newid o flwyddyn i flwyddyn, felly er bod hyn yn ddefnyddiol iawn, nid yw bob amser yn gynaliadwy.

Mae llawer o ysgolion yn gweithio mewn clystyrau i rannu syniadau a chydweithio ar feysydd penodol. Gallai ysgolion clwstwr rannu staff hyd yn oed, er enghraifft Rheolwr Busnes. A yw’ch corff llywodraethu wedi meddwl am unrhyw beth fel hyn?

Pan fydd y corff llywodraethu’n wynebu cyllideb ostyngol, mae’n rhaid iddo edrych ar feysydd lle y gall arbed arian, a hynny, gobeithio, heb orfod dechrau’r broses dileu swydd statudol. Yn anffodus, fodd bynnag, mae’n rhaid i lawer o ysgolion wynebu sefyllfaoedd lle mae swyddi staff yn cael eu dileu, a bydd ganddynt bolisi i’w ddilyn ar gyfer hyn. Ond mae’n bwysig ystyried yr holl opsiynau eraill cyn dilyn y llwybr hwn. Bydd eich Awdurdod Lleol yn gallu eich cynghori ar y prosesau i’w dilyn hefyd. Mae cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol ar gael. Dyma enghreifft.

Bydd yr adeg hon bob amser yn un anodd i bawb sy’n gysylltiedig, felly mae’n rhaid ei thrin mewn modd sensitif. Dylai’r pennaeth roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r staff am beth sy’n digwydd drwy gydol y broses.

Mae ACAS wedi cynhyrchu canllawiau ar weithdrefnau dileu swydd a gweithdrefnau teg, ond mae’n rhaid i’r corff llywodraethu ddilyn y camau a nodir yn ei bolisi ei hun yn yr ysgol.

Ceisiwch gyngor gan yr Awdurdod Lleol neu’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n briodol, o’r cychwyn cyntaf neu cysylltwch â Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru ar [email protected]


Myfyrdodau…
Sut mae eich ysgol wedi rheoli toriadau i’r gyllideb a diffygion cyllidebol?
Pa ddulliau mae eich corff llywodraethu wedi’u hystyried i godi arian ychwanegol ar gyfer yr ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708