Tarfu a datgeliadau anodd o ganlyniad i benodi pennaeth newydd

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Yn dilyn ymddeoliad y Pennaeth, roedd staff, llywodraethwyr a rhieni’n disgwyl i’r Dirprwy poblogaidd ddod yn Bennaeth newydd. Roedd ymgeisydd llawer gwell yn llwyddiannus ac fe’i penodwyd. Achosodd hyn rywfaint o ddicter ymhlith nifer fach o staff a oedd yn ffyddlon i’r Dirprwy, yn ogystal â siom a dadrithiad yn y Dirprwy. Aeth uwch aelodau staff ar absenoldeb tymor hir oherwydd salwch o ganlyniad i hyn.

Yn gysylltiedig â’r newid hwn, roedd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth dan yr argraff eu bod yn cyflawni i safon uchel ac yn gosod esiampl i ysgolion eraill yn y sir. Roeddent yn credu bod eu harferion yn effeithiol ac yn llwyddiannus. Dangosodd y Pennaeth newydd nad oedd hynny’n wir. Roedd anghysondebau rhwng asesiadau athrawon a chanlyniadau profion yn dangos bod safonau addysgu wedi llithro a bod disgyblion yn gwneud llai o gynnydd nag y credwyd. Nid oedd y Corff Llywodraethu yn deall data’n ddigonol i herio tybiaethau staff yn effeithiol.


Beth ddigwyddodd?
Mae’r sefyllfa’n parhau ond mae wedi creu problemau wrth geisio helpu’r Pennaeth newydd i ymgartrefu a’r ysgol i gyflawni fel y dylai. Mae’n derbyn sylw trwy osod Uwch Dîm Arweinyddiaeth dros dro a pholisi salwch AD.

Mae cyfres o adolygiadau ac arolygiadau bychan yn cael eu cynnal i amlygu’r llinell sylfaen bresennol ac mae cynlluniau ar waith i fynd i’r afael â diffygion. Mae hyfforddiant yn cael ei ddilyn.


Pa wersi a ddysgwyd?
Nid yw’r naill na’r llall o’r materion uchod wedi cael eu datrys eto, ond mae gwaith yn mynd rhagddo arnynt ac fe allai gymryd 12 mis cyn i ni weld gwelliant.


Sylwebaeth
Penodi pennaeth yw tasg bwysicaf y corff llywodraethu, yn ôl pob tebyg. Mae sicrhau bod yr unigolyn iawn yn arwain yr ysgol yn hollbwysig i lwyddiant yr ysgol. Felly, mae angen ystyried y broses yn ofalus a cheisio cyngor arbenigol o ddechrau i ddiwedd pob cam o’r broses ddethol i gynorthwyo’r corff llywodraethu. Bydd hyn ar gael gan swyddogion yr Awdurdod Lleol / Consortiwm Rhanbarthol, a’r Awdurdod Esgobaethol, fel y bo’n berthnasol.

Bydd gan yr Awdurdod Lleol wybodaeth a chanllawiau am y broses penodi pennaeth. Mae gan Wasanaethau Llywodraethwyr Cymru ganllaw defnyddiol i lywodraethwyr i’ch cynorthwyo hefyd.

Yn yr astudiaeth achos hon, mae’n ddealladwy y byddai’r dirprwy bennaeth yn siomedig i beidio â chael ei benodi. Mae hynny ond yn naturiol. Yn y pen draw, byddai’r corff llywodraethu wedi penodi’r unigolyn gorau am y swydd yn seiliedig ar feini prawf dethol manwl a phroses penodi a chyfweld drwyadl.

Yn anffodus, gall dadrithiad ymwreiddio ymhlith y staff, ond gallai amrywiaeth o resymau eraill fod yn gyfrifol am hynny hefyd. Bellach, mae angen i bawb, gan gynnwys rhieni, staff a llywodraethwyr, symud ymlaen er pennaf les yr ysgol. Tasg y pennaeth newydd, ynghyd â’r corff llywodraethu, fydd dod â phawb ynghyd a datblygu llwybrau newydd a strategaethau ysgol gyfan, nid lleiaf ar gyfer datblygu’r tîm. Ond nid yw hyn yn digwydd dros nos.

Mae’n anochel y bydd pennaeth newydd eisiau newid a datblygu rhai agweddau ar fywyd yr ysgol. Mae angen mynd ati’n ofalus i gyflawni hyn, fel y gallwn ei weld o’r enghraifft hon. Mae angen amser a diplomyddiaeth i ennyn cefnogaeth pawb! Bydd hyfforddiant staff a chyfleoedd datblygiad proffesiynol yn sicr o gymorth. Gall ailystyried gweledigaeth yr ysgol gan ddefnyddio rhywfaint o amser HMS a gwahodd llywodraethwyr i fynychu fod yn fan cychwyn defnyddiol.

O ran y corff llywodraethu, mae’n amlwg nad oedd yn cyflawni ei swyddogaeth strategol yn effeithiol, yn enwedig y rôl cyfaill beirniadol. Mae angen i lywodraethwyr sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth fanwl a chadarn o ddata’r ysgol a’u bod yn gofyn cwestiynau i herio’r sefyllfa bresennol. Felly, ni ddylai llywodraethwyr synnu pan fydd eu disgwyliadau a’u dealltwriaeth o sut mae pethau yn yr ysgol yn cael eu herio.

Dyma rai ffyrdd defnyddiol o ddatblygu’r rôl cyfaill beirniadol neu ymholgar, yn ogystal â gwybodaeth am sut i gael dealltwriaeth well o sut i ddefnyddio data perfformiad.

Sut i herio’n effeithiol? Cynghorion ymarferol

Y Ffrind Berniadol

Canllaw i Lywodraethwyr ar y Defnydd o Ddata Perfformiad

A yw holl aelodau perthnasol y corff llywodraethu wedi dilyn yr hyfforddiant gorfodol ar ddata perfformiad ysgol? Gwiriwch gyda’ch clerc a / neu’r Awdurdod Lleol i weld a oes angen i chi fynychu.

Mae ymarferion hunanwerthuso ysgol a hunanadolygu effeithiolrwydd y corff llywodraethu yn ffordd wych a hwylus o fyfyrio ar gryfderau’r ysgol a meysydd i’w datblygu. Gall hyn ynddo’i hun helpu i annog trafodaeth a pherchenogaeth ac, yn bwysicaf oll, creu amgylchedd agored a thryloyw. Fel llywodraethwr, a ydych chi’n ymwneud yn llawn â phrosesau hunanwerthuso’r ysgol? A yw’r corff llywodraethu’n adolygu ei waith ei hun i weld sut gall wella? Bydd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm Rhanbarthol wybodaeth am hyn i’ch cynorthwyo, ynghyd â thempledi Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru.


Myfyrdodau…
A yw newidiadau i aelodau uwch dîm arweinyddiaeth eich ysgol wedi achosi problemau o ran ysbryd staff?
A yw newid o ran arweinwyr wedi datgelu materion a fu’n gudd yn flaenorol sy’n effeithio ar berfformiad yr ysgol?
A yw’ch corff llywodraethu yn teimlo’n hyderus ynglŷn â gwerthuso data perfformiad ysgol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708