Y Ffrind Berniadol

Prif rôl y corff llywodraethu yw sefydlu fframwaith strategol ar gyfer yr ysgol ac adolygu’r cynnydd a wnaethpwyd yn rheolaidd.

Dylai’r corff llywodraethu gyflanwi ei rôl strategol trwy gymryd tair gweithred allweddol, sef gosod:
  • nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
  • polisïau ar gyfer yr ysgol i gyflawni’r nodau a’r amcanion hynny; a
  • targedau y gallant fesur cynnydd tuag at y nodau ac amcanion yn eu herbyn

Mae’n bwysig iawn bod y corff llywodraethu yn monitro ac yn gwerthuso cynnydd. I wneud hyn yn llwyddiannus mae angen iddynt weithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i’r pennaeth.


Gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’

Mae’r corff llywodraethu yn rhoi cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i’r pennaeth a’r staff gan dynnu ar wybodaeth a phrofiad ei aelodau. Yn y modd hwn mae’r corff llywodraethu yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i’r ysgol.

Mae’r diagram isod yn disgrifio pedwar safle gwahanol iawn y gall cyrff llywodraethu eu mabwysiadu. Ond mae’n bwysig, bod cyrff llywodraethu yn cael cydbwysedd rhwng cefnogi a herio, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredu fel ffrind beirniadol i’r pennaeth. Yn ddi-os bydd corff llywodraethu effeithiol yn darparu arweinyddiaeth strategol wedi’i gyfuno â graddfa uchel o sialens a lefelau uchel o
gefnogaeth.



Beth ydy ‘ffrind beirniadol’?

Mae’r term ‘ffrind beirniadol’ yn anodd i’w ddiffinio – efallai y byddai ‘ffrind ymholgar’ yn fwy priodol. Mae’r corff llywodraethu yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ trwy gynorthwyo’r ysgol a’r staff gyda gweithrediadau a phenderfyniadau sydd yn effeithio ar bob agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol. Wrth wneud hynny, dylai’r corff llywodraethu chwilio a holi’r rhesymeg dros y penderfyniadau a chynnig, lle mae’n bosibl, adborth gofalus ac ystyrlon.

Er y dylai’r corff llywodraethu ddarparu cefnogaeth, ni ddylent ofni gofyn cwestiynau heriol a gofyn am wybodaeth ac esboniad pellach pan fo angen. Cofiwch y defnyddir y gair ‘beirniadol’ yng nghyd-destun cyfrifoldeb y corff llywodraethu dros fonitro a gwerthuso effeithlonrwydd yr ysgol a’r ymdrech barhaus am welliant.

Sut y gall ‘ffrind beirniadol’ helpu gwelliant ysgol? Dyma rai pwyntiau i’w hystyried:

  • Gall bod yn wrandawr da ac yn ddatrysydd problemau helpu’r ysgol i wella syniadau a chynigion a dod i benderfyniadau cadarn;
  • Gofyn cwestiynau ymchwilgar sydd yn helpu i ddatblygu disgwyliadau a bwriadau, yn enwedig pan fo disgwyliadau’n rhy isel neu lle nad yw gweithrediadau’n cyd-fynd â bwriadau. Weithiau, bydd y cwestiynau allweddol ond ‘syml’ yn aml: Pam? Sut? Ble? Pryd? yn rhoi yr ateb yr ydych ei angen i chi. Mae rhagor o wybodaeth ar yr agwedd hon ar gael yn rhan 3 o’r Llawlyfr ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion
  • Cydnabod a dathlu cyflawniadau’r ysgol;
  • Gwybod pan nad yw’r ysgol yn cyflawni cystal ag y gallai;
  • Darparu cefnogaeth ac anogaeth pan fo strategaethau i greu gwelliant yn cael eu hystyried. Dylai systemau fod yn eu lle i fonitro a gwerthuso gwaith yr ysgol;
  • Cael cydbwysedd priodol rhwng cefnogi a herio.

Mae’r cwestiynau a awgrymir yn canolbwyntio ar feysydd penodol yn amrywio o gefnogi a herio, gorolwg strategol, monitro a gwerthuso, atebolrwydd a byddant yn gymorth wrth baratoi ar gyfer arolwg Estyn.

Rhestr wirio’r ‘ffrind beirniadol’ ac awgrymiadau ar gyfer hyfforddiant


Mae perthynas agored ac ymddiriedaeth rhwng y corff llywodraethu a’r staff wrth galon rôl y ‘ffrind beirniadol.’
Os ydych yn sefydlu sesiwn datblygu/hyfforddi corff llywodraethu, ystyriwch rannu un gyda’r staff – bydd un ar Rolau a Chyfrifoldebau yn eich helpu i edrych ar gysylltiadau o fewn y corff llywodraethu. Efallai yr hoffech ystyried dulliau o weithio gyda llywodraethwyr a staff gyda’i gilydd. Gallai enghreifftiau gynnwys ar y weledigeth ar gyfer yr ysgol, ymweliadau llywodraethwyr â’r ysgol, neu Gynllun Datblygu yr Ysgol.


Bydd meddu ar wybodaeth yn eich helpu i ddatblygu’r hyder i ofyn y cwestiynau heriol hynny.
Mae amrywiaeth o hyfforddiant a chefnogaeth ar gael i lywodraethwyr ysgol i’ch helpu i gyflawni eich rôl yn effeithiol. Bydd hyfforddiant yn gysylltiedig yn benodol gyda blaenoriaethau’r ysgol ac anghenion llywodraethwyr unigol yn fuddiol. Bydd nifer o gyrsiau yn eich helpu i ganolbwyntio ar fonitro meysydd neilltuol o gyfrifoldebau corff llywodraethu e.e. Y Cwricwlwm, Amddiffyn Plant, Iechyd a Diogelwch.



Unwaith y mae eich fframwaith strategol ar gyfer gwelliant ysgol yn ei le mae’n bwysig monitro ei weithrediad a gwerthuso ei effaith.
Bydd cyrsiau ar Hunan werthuso/monitro a gwerthuso ysgol yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau i fonitro a gwerthuso yn effeithiol a bydd yn gymorth i chi ofyn y cwestiynau cywir. Bydd sesiwn ar Rannu Gweledigaeth ar gyfer yr Ysgol yn rhoi cyfle da i’r corff llywodraethu cyfan a’r staff fyfyrio ar sut y gellir monitro gweledigaeth a nodau yr ysgol yn ymarferol. Mae rhagor o wybodaeth fanwl yn y Canllaw i Lywodraethwyr ar Hunan Werthuso


Er mwyn monitro a gwerthuso yn effeithiol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o’r ystod o wybodaeth sydd ar gael i’ch helpu i adnabod a deall eich ysgol.
Mynychu hyfforddiant data gorfodol yn eich gwneud yn fwy ymwybodol o sut i ddefnyddio’r wybodaeth er lles y plant yn eich ysgol. Yn yr un modd bydd gwybodaeth am Gefnogaeth Bugeiliol yn eich helpu i ddeall yr ochr anacademaidd i fywyd yr ysgol. Mae adroddiad y pennaeth i’r corff llywodraethu hefyd yn offeryn defnyddiol i ddarparu gwybodaeth am y rhain a meysydd eraill. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw i Lywodraethwyr ar y Defnydd o Ddata Perfformiad


Mae cyrff llywodraethu yn gyfrifol am gyflawniad addysgol pob disgybl yn eu hysgol.
Pa mor gynhwysol yw’r polisïau y cytunwyd arnynt gan eich corff llywodraethu? Mae hyfforddiant ar e.e. Cynhwysiad, Cydraddoldeb a Gweithdrefnau Cwynion yn feysydd a fydd yn eich helpu i ofyn y cwestiynau cywir i wneud yn siwr bod anghenion unigolion yn cael eu diwallu yn eich ysgol.


Mae nifer o gyrff llywodraethu yn dirprwyo cyfrifoldebau penodol i lywodraethwyr unigol.
Dylai Llywodraethwyr Cyswllt ddarganfod rhagor am botensial eu rôl. Bydd yn ddefnyddiol i lywodraethwyr yn gysylltiedig gydag Anghenion Addysgol Arbennig yn ogystal â llywodraethwyr Amddiffyn Plant enwebedig fynychu cyrsiau ar AAA ac Amddiffyn Plant. Os ydych yn lywodraethwr newydd, neu yn teimlo bod angen diweddaru eich dealltwriaeth o’ch rôl fel llywodraethwr, bydd yr hyfforddiant Sefydlu gorfodol o gymorth i chi. Bydd sesiwn datblygu corff llywodraethu ar Rolau a Chyfrifoldebau yn darparu golwg holistaidd ar ddirprwyo cyfrifoldebau ar y corff llywodraethu, ac mae’r canllaw i lywodraethwyr ar Benodi Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid yn wybodaeth hanfodol ar gyfer y panel a ddirprwyir i gyflawni’r broses ddethol ar gyfer pennaeth neu ddirprwy bennaeth newydd. Os ydych yn debygol o fod yn aelod o banel gwahardd disgyblion yna gwnewch yn siwr eich bod yn mynychu’r cyfleoedd hyfforddi priodol.


Y staff yw eich ased mwyaf gwerthfawr a bydd y corff llywodraethu sydd yn ffrind beirniadol da yn cymryd eu lles o ddifrif.
Bydd sesiynau ar Perfformiad, Tâl a Datblygiad yn eich helpu i fonitro’r ddarpariaeth a wnewch ar gyfer eich holl staff.


Mae cyrff llywodraethu angen strwythur clir i’w helpu i fonitro a gwerthuso effaith eu polisïau yn effeithiol.
Mae’n ddefnyddiol cael rhestr wirio i’r diben hwn. Darperir patrymlun yn ogystal â rhestr o bolisïau a dogfennau statudol


Mae angen i gyrff llywodraethu ddeall sut y mae’r systemau ariannol yn eu hysgol yn gweithio, os ydynt am sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o’r gyllideb er mwyn cyflwyno blaenoriaethau ar gyfer gwelliant.
Bydd sesiynau hyfforddi ar Gyllid yn gallu eich helpu yma.


Mae angen i gorff llywodraethu fonitro a gwerthuso ei berfformiad ei hun hefyd os yw i barhau’n effeithiol.
Mae ymarferiad hunan werthuso/adolygu corff llywodraethu cyfan yn ddull defnyddiol o adolygu ymarferion y corff llywodraethu ac mae’n offeryn ardderchog i baratoi ar gyfer arolwg, yn gysylltiedig yn benodol gydag adroddiad Gwerthusiad yr Ysgol, a bydd o gymorth i sicrhau bod y corff llywodraethu yn perfformio yn effeithiol yn ei rôl arweinyddol. Bydd yn ddefnyddiol hefyd i Gadeiryddion fynychu sesiynau penodol i’w cynorthwyo i ddatblygu’r sgiliau y maent eu hangen i gefnogi’r corff llywodraethu yn y ffordd orau. Yn yr un modd, mae clerc effeithiol yn allweddol i lywodraethu effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllaw i Lywodraethwyr ar Hunan Werthuso

Cofiwch – fedrwch chi ddim gwneud popeth! Ond os yw pob aelod o’ch corff llywodraethu wedi ymrwymo i hyfforddiant ar un agwedd o’ch gwaith, byddwch yn gwneud defnydd da o’r amser sydd gennych i’w roi i’ch ysgol.

Cwestiynau i Lywodraethwyr i ofyn i’r Pennaeth/y tîm arwain fel rhan o’u rôl i gefnogi a herio
Rhan hanfodol o rôl llywodraethwyr ysgol yw rhoi cymorth effeithiol i’r pennaeth a’r uwch arweinwyr a’u herio. Er mwyn helpu llywodraethwyr i wneud hynny, mae’r Bwrdd Datblygu Arweinyddiaeth Cenedlaethol (NLDB) wedi paratoi’r cwestiynau allweddol a ganlyn i lywodraethwyr eu defnyddio. CLICWCH YMA


Am ragor o awgrymiadau ac arfer effeithiol i’ch cynorthwyo gyda’ch rôl bwysig o ran cefnogaeth a herio a bod yn ffrind beirniadol, edrychwch ar ein modiwl e-ddysgu.

csmodule-cy


© Gwasanaethau Governors Cymru

Cyhoeddwyd: 29/08/2018

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708