Cyflwyniad
Diolch am gytuno i wasanaethu fel aelod o gorff llywodraethu nodwch enw’r ysgol. Mae’r Awdurdod Lleol, ynghyd â’r pennaeth a’r staff yn yr ysgol, yn gwerthfawrogi’r amser yr ydych yn ei roi, yn wirfoddol, i sicrhau bod plant yr ysgol yn derbyn addysg o ansawdd da.
Yn nodwch enw’r ysgol, mae’r corff llywodraethu a’r pennaeth yn credu ei bod yn hanfodol bod pob llywodraethwr newydd yn derbyn pecyn anwytho cynhwysfawr yn trafod amrediad o bynciau.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob llywodraethwr newydd yn derbyn yr wybodaeth a’r cymorth angenrheidiol i gyflawni eu rolau yn hyderus. Gwelwn hyn fel buddsoddiad, gan arwain at lywodraethu mwy effeithiol a chadw llywodraethwyr. Mae’n bwysig hefyd bod pob llywodraethwyr yn teimlo bod cefnogaeth ar gael.
Bydd llywodraethwyr newydd yn:
- Cael eu croesawu i’r corff llywodraethu gan y cadeirydd;
- Cael eu gwahodd gan y pennaeth i ymweld â’r ysgol i brofi’r awyrgylch a deall ei ethos a’i gwerthoedd;
- Cael cyfle i fynd o gwmpas yr ysgol i gyfarfod y disgyblion a’r staff;
- Derbyn briff anffurfiol am yr ysgol gan y pennaeth a’r cadeirydd i esbonio:
– Cefndir yr ysgol;
– Materion cyfredol sydd yn wynebu’r ysgol;
– Ymweld â’r ysgol;
– Y berthynas rhwng y pennaeth, yr ysgol a’r corff llywodraethu;
- Cael cyfle i gyfarfod llywodraethwr cyfredol yn anffurfiol sydd wedyn yn gallu gweithredu fel mentor. Byddant yn esbonio sut y mae’r corff llywodraethu a’i bwyllgorau yn gweithio;*
- Cael eu hannog i ymuno â phwyllgor(au) o’u dewis;
- Mentor yn mynd gyda nhw i’w cyfarfod cyntaf (os oes angen);
- Cael cyfle i adolygu eu cyfarfod cyntaf gyda’r mentor neu’r pennaeth/cadeirydd;
- Derbyn deunydd cefndir ar yr ysgol a materion cyfredol, yn cynnwys Cynllun Datblygu Ysgol;
- Cael eu hannog i ofyn cwestiynau a’u rôl ac/neu’r ysgol;
- Cael eu hannog i fynd ar hyfforddiant a bod yn rhaid iddynt fynychu Hyfforddiant Anwytho i Lywodraethwyr a Deall Data Ysgolion a gynigir gan yr ALl.
Rôl y mentor lywodraethwr:
- Rhoi trosolwg o rôl llywodraethwr;
- Esbonio sut y mae cyfarfodydd corff llywodraethu a chyfarfodydd pwyllgorau yn cael eu cynnal;
- Cyfarfod cyn y cyfarfod cyntaf fel bod un person o leiaf y bydd y llywodraethwr newydd yn ei adnabod;
- Mynd trwy bapurau’r cyfarfod cyntaf gan nodi materion pwysig i’r ysgol a helpu gyda phroblemau, fel jargon;
- Esbonio rheolau cyfarfod, fel siarad trwy’r cadeirydd;
- Helpu’r llywodraethwr newydd i nodi diddordebau a sgiliau all fod yn ddefnyddiol i’r corff llywodraethu.
Bydd llywodraethwyr newydd yn derbyn ac yn cael eu hannog i ddarllen:
- Dyddiadau cyfarfodydd y corff llywodraethu yn y dyfodol;
- Rhestr o aelodau a chyfrifoldebau’r corff llywodraethu h.y. aelodau pwyllgorau, llywodraethwyr cyswllt ayyb;
- Manylion am sut i gysylltu gyda’r ysgol;
- Manylion am bwyllgorau’r corff llywodraethu a’u cylch gwaith;
- Copïau o gofnodion dau gyfarfod llawn diwethaf y corff lllywodraethu;
- Cyfranogiad y llywodraethwyr i bolisïau’r ysgol;
- Copi o’r adroddiad diweddaraf ar y gyllideb;
- Adroddiad diweddaraf y pennaeth i’r corff llywodraethu;
- Llawlyfr yr ysgol;
- Rhestr o aelodau’r staff a’u cyfrifoldebau;
- Adroddiad Blynyddol diweddaraf i Rieni;
- Adroddiad a Chynllun Gweithredu Arolwg diweddaraf;
- Cynllun Datblygu/Gwelliant Ysgol;
- Adroddiad Hunan Werthuso Ysgol;
- Amserlen gwyliau ysgol/calendr digwyddiadau cyfredol.
Cyflwyniad i Lywodraethu Ysgolion yng Nghymru — taith y llywodraethwr
Gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Governors for Schools a Phrifysgol Caerdydd, lluniwyd y modiwl hwn yn benodol ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn bod yn llywodraethwr a phobl sydd wedi dechrau yn ddiweddar ar eu taith fel llywodraethwr ysgol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Dogfennau eraill defnyddiol:
Monitro ac Adolygu
Crëwyd ar ……………………………………………………………………………………………….
Diweddarwyd ddiwethaf ar …………………………………………………………………………………………
Mabwysiadwyd gan Gorff Llywodraethu llawn ar ………………………………………………………………….
Dyddiad adolygu wedi’i drefnu …………………………………………………………………………………
Llofnod Cadeirydd y Llywodraethwr a’r dyddiad ……………………………………………………………..
© Gwasanaethau Governors Cymru