Newyddion

Llunio dyfodol eich ysgol: Mae Governors for Schools yma i helpu

A oes angen i’ch ysgol lenwi swyddi llywodraethwyr sy’n wag neu sydd ar ddod? Ydych chi’n chwilio am wirfoddolwyr gydag amrywiaeth o setiau sgiliau i helpu i ysgogi newid strategol? Dysgwch sut y gallai Governors for Schools eich cefnogi yn eu sesiwn wybodaeth am ddim ar Dydd Mawrth, 21 Mawrth, 4-5pm trwy Zoom.

Ers lansio’r gwasanaeth yng Nghymru ym mis Tachwedd 2020, mae Governors for Schools wedi lleoli 160 o wirfoddolwyr mewn ysgolion ledled Cymru. Mae’r elusen yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr a phartneriaid i annog eu gweithwyr i gofrestru i fod yn llywodraethwyr. Maent hefyd wedi ymrwymo i amrywiaeth gyda 14% o’r llywodraethwyr a leolir yng Nghymru o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a 44% o dan 45 oed.

Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Gyda chyllid llawn, mae’r elusen yn darparu’r cyswllt rhwng unigolion medrus ac ymroddedig sy’n dymuno dod yn llywodraethwyr ysgol ac ysgolion sydd angen llenwi swyddi gwag.

Bydd y gweminar yn archwilio sut mae gwasanaeth rhad ac am ddim Governors for Schools yn gweithio, sut y maent yn recriwtio llywodraethwyr posibl, a’r hyfforddiant rhad ac am ddim sydd ar gael i helpu i gefnogi gwirfoddolwyr unwaith y byddant yn eu rôl newydd. Bydd y sesiwn hefyd yn ymdrin â sut mae’r elusen yn gweithio gydag amrywiaeth eang o gyflogwyr a phartneriaid i annog eu gweithwyr i gofrestru i fod yn llywodraethwyr a’r cymorth wedi’i deilwra y gallant ei gynnig i’ch ysgol.

Sylwch y cynhelir y gweminar yn Saesneg. I gofrestru, cofrestrwch eich lle yma. Bydd y weminar yn cael ei recordio a’i dosbarthu i’r holl gofrestreion wedyn.

Am unrhyw gwestiynau ac/neu os hoffech ragor o wybodaeth cyn y digwyddiad, cysylltwch â Loren Nadin, Uwch Rheolwr Partneriaeth, [email protected]

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708