Y mis hwn, rydym yn falch iawn o lansio’r modiwl e-ddysgu nesaf ar gyfer tanysgrifwyr – Sut gall llywodraethwyr helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad mewn ysgolion.
Mae’r modiwl rhyngweithiol hwn yn edrych ar sut y gall ysgolion gefnogi disgyblion drwy ystod o ymyriadau i leihau’r gwahaniaeth mewn perfformiad academaidd rhwng grwpiau o ddysgwyr, yn ogystal ag enghreifftiau o arfer effeithiol a chwestiynau y gall cyrff llywodraethu eu gofyn fel rhan o’u rolau strategol ac atebolrwydd. Dim ond dechrau’r daith yw hyn. Mae’r maes pwnc yn gymhleth felly rydym newydd dynnu sylw at rai agweddau allweddol y gall llywodraethwyr eu hystyried, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol am adnoddau i chi ei harchwilio ymhellach. Bydd y modiwl yn cael ei ddiweddaru a’i wella dros amser.
Yn olaf, diolch arbennig i Brifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth a’u gwaith partneriaeth i gynhyrchu’r modiwl e-ddysgu hwn. Dywedodd Sue Diment – Rheolwr Partneriaethau Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd:
Mae cefnogi llywodraethwyr ysgolion i gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am y maes allweddol hwn yn hanfodol, er mwyn sicrhau cyfleoedd teg i bob dysgwr ledled Cymru. Mae Gwasanaethau Governors Cymru yn un o’n partneriaid addysg Gymraeg ac mae wedi bod yn bleser noddi a gweithio gyda nhw i ddatblygu’r modiwl dwyieithog hwn.
Gobeithiwn y bydd y modiwl yn ddefnyddiol i’ch cefnogi gyda’ch gwaith llywodraethwyr.
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708