Newyddion

Modiwl e-ddysgu newydd - Sut y gall mentora gefnogi gwaith y corff llywodraethu


Mae manteision mentora yn arwyddocaol i gorff llywodraethu ysgol. Gall mentora effeithiol chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu medrau llywodraethwr – boed fel llywodraethwr newydd, cadeirydd llywodraethwyr neu glerc. Mae hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn rhan llawn o waith a rhedeg llyfn y corff llywodraethu. Mae mentora hefyd yn gyfle datblygu ardderchog. Er y bydd llywodraethwyr newydd yn elwa o gyngor, arweiniad ac anogaeth rhywun mwy medrus, fel llywodraethwr rydych chi’n cael datblygu sgiliau hyfforddi, yn ogystal â chael ymdeimlad o foddhad personol o gymryd rhywun o dan eich adain.

Yn y cwrs byr hwn, fe welwch wybodaeth am y gwahanol ffyrdd y gall mentora helpu. Mae hyn yn cynnwys:
– beth mae mentor lywodraethwr yn ei wneud;
– y rhinweddau i chwilio amdanynt;
– sut i arwain sesiynau mentora cynhyrchiol; a
– pethau i’w gwneud a dim i’w gwneud i ddod yn fentor effeithiol.

Byddwch hefyd yn dysgu am yr heriau cyffredin mewn perthynas fentora ynghyd â strategaethau i oresgyn pob un, yn ogystal â’r holl fanteision.

Ddim wedi tanysgrifio ar hyn o bryd?
Cymerwch olwg ar yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

mentoring-cy

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708