Newyddion

Oes gennych chi farn ar gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru?


Diweddariad pwysig ynglŷn ag adolygiad cyrff llywodraethu gan Lywodraeth Cymru

Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn chwarae rôl hanfodol o ran cefnogi dysgwyr, staff a chymuned ehangach yr ysgol. Mae eu cyfrifoldebau’n eang ac maent wedi’u nodi mewn deddfwriaeth ac mewn chanllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Dros y degawd diwethaf, mae’r system ysgolion yng Nghymru wedi cael ei diwygio’n sylweddol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cyrff llywodraethu wedi ymgymryd â dyletswyddau ychwanegol a diwygiedig. Fodd bynnag, er gwaethaf y newidiadau hyn, mae pwrpas craidd cyrff llywodraethu ysgolion wedi aros yr un peth fwy neu lai.

Rydym yn adolygu Cyrff Llywodraethu Ysgolion yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod llywodraethwyr yn cael eu cefnogi’n briodol trwy hyfforddiant ac arweiniad effeithiol, a bod eu rôl wedi’i diffinio’n glir mewn deddfwriaeth. Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan grŵp cyfeirio, sy’n helpu i lywio’r adolygiad trwy ddarparu barn, cyngor a gwybodaeth.

Rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl â phosibl sydd â buddiant mewn llywodraethu ysgolion – yn enwedig llywodraethwyr, staff ysgolion, rhieni a dysgwyr – dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rydym am osgoi gormodedd o arolygon chasglu adborth gonest a mwy ystyrlon. Felly, byddwn yn canolbwyntio ar drafod – drwy fynychu neu drefnu cyfarfodydd – i glywed barn a syniadau yn uniongyrchol.

Os ydych chi’n rhan o gymdeithas, rhwydwaith neu grŵp a hoffai gyfrannu at yr adolygiad, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Cysylltwch â ni yn [email protected].

Sylwadau

Ychwanegu sylw

Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708