Deall cyllidebau ysgolion yn well

Trafodaeth – Ysgol Gynradd


Beth oedd y mater yr ymdriniwyd ag ef?
Bob blwyddyn, ceir dryswch ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gynnwys ac nad yw wedi’i gynnwys mewn penawdau cyllideb rheoli ysgolion yn lleol (LMS). Mae’r diffyg gwybodaeth yn ei gwneud hi’n anodd rheoli’r gyllideb. Yn rhy aml, mae llywodraethwyr yn cymeradwyo pethau heb eu deall. Mae diffyg hyder a gwybodaeth i herio ymhlith tîm arweinyddiaeth yr ysgol hyd yn oed.


Beth ddigwyddodd?
Nid ydym wedi gwneud digon i fod yn onest hyd yma. Mae gennym ni reolwr LMS newydd, felly rydym yn defnyddio hyn fel cyfle i ffurfio perthynas fwy cynhyrchiol. Rydym wedi ymrwymo i gael gwybodaeth systematig am y broses.


Pa wersi a ddysgwyd?
Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae wedi gosod y sylfaen ar gyfer symud ymlaen yn gynhyrchiol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd deall y gyllideb yn well.


Sylwebaeth
Mae’r corff llywodraethu’n cyflawni rôl strategol mewn rheolaeth ariannol yr ysgol, gan sicrhau bod adnoddau ariannol yr ysgol yn cael eu defnyddio i gefnogi gwell canlyniadau i ddysgwyr yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol.

Yn yr enghraifft hon, mae’r corff llywodraethu’n cydnabod yr angen i wella ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o sut mae’r gyllideb yn gweithio, a fydd, yn ei dro, yn helpu’r llywodraethwyr i ddatblygu eu rolau atebolrwydd a strategol a pheidio â ‘chymeradwyo pethau heb eu deall’. Mae’r ymrwymiad i ddatblygu’r maes gwaith hwn yn ganmoladwy. Mae datblygu perthynas waith dda â’r swyddog Rheoli Ysgolion yn Lleol (LMS) newydd yn amlwg yn fan cychwyn da.

A oes gan eich corff llywodraethu bwyllgor cyllid? Mae hyn yn ffordd dda o ddefnyddio unrhyw arbenigedd ariannol penodol a allai fod gan lywodraethwyr ac mae’n aml yn haws trafod a mynd i’r afael â’r gyllideb, yn ogystal â monitro’r incwm a’r gwariant, mewn grŵp bach cyn eu trafod ar lefel y corff llywodraethu cyfan. Dyma enghraifft o gylch gorchwyl ar gyfer y pwyllgor hwn.

Yn aml, bydd Awdurdodau Lleol yn darparu hyfforddiant ar gyllid ysgolion i benaethiaid a llywodraethwyr. Mae hyn yn ffordd wych o gynyddu’ch dealltwriaeth o sut mae’r gyllideb yn cael ei threfnu ac ati. Cysylltwch â’ch swyddog cymorth llywodraethwyr lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Gwasanaethau Llywodraethwyr Cymru yn darparu trosolwg o wybodaeth am gyllid ysgolion. Beth am gael cipolwg ar y canlynol.

Rhan 4 y llawlyfr

Canllaw i Lywodraethwyr ar Lywodraethwyr a Chyllid


Myfyrdodau…
A yw’ch corff llywodraethu’n hyderus ei fod yn deall penawdau a rheoliadau cyllidebol?
A ydych chi’n gweithio’n effeithiol gyda rheolwr Rheoli Ysgolion yn Lleol?


Dweud eich dweud…
A ydych chi wedi cael profiadau tebyg i’r rhain?
Beth yw’ch barn am y sefyllfa a ddisgrifiwyd?


Cysylltwch â ni

01443 844532 / 029 2075 3685 [email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708