Cynlluniau addysg personol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal: canllawiau drafft i ymarferwyr
Mae’r ymgynghoriad hwn yn croesawu eich barn ar ganllawiau anstatudol drafft newydd i awdurdodau lleol ac ysgolion ar lunio, datblygu ac adolygu cynlluniau addysg personol. Nod y canllaw yw:
– cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion neu lleoliadau i wneud y broses o lunio cynllun addysg personol yn fwy ystyrlon ac effeithiol i blant sy’n derbyn gofal
– gosod y cyddestun i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswydd statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i sicrhau bod gan bob plentyn sy’n derbyn gofal gynllun addysg personol o ansawdd uchel nes y bydd yn gorffen addysg statudol.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 1 Rhagfyr 2025
Data i fonitro’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio eich barn ar y cynigion gan Lywodraeth Cymru i newid y data a gasglwn am y system ADY mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion. Gwnawn y newid hwn oherwydd mai’r system ADY, o fis Medi 2025, yw’r unig system ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu Llywodraeth Cymru a chyrff cyfrifol i roi gwell cefnogaeth i ddysgwyr ag ADY, gan fonitro a gwella’r system. Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar newidiadau arfaethedig i’r data ADY a gofnodir gan awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion, ac a gesglir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
– plant a phobl ifanc unigol ag ADY sy’n mynychu lleoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru neu sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (AHY)
– darpariaeth ADY a’r gwaith o gyflwyno’r system ADY o fewn lleoliadau addysg a gynhelir
– data ar lefel unigol ar y gweithlu addysg mewn lleoliadau a gynhelir.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Rhagfyr 2025
Safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth. Nod y safonau proffesiynol diwygiedig yw sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â chynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth yng Nghymru wedi’u grymuso i ysbrydoli dysgwyr, arwain arloesedd, a chyfrannu’n ystyrlon at system addysg gynhwysol fywiog sy’n diwallu anghenion pob dysgwr.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 26 Ionawr 2026
01443 844532 / 029 2075 3685
[email protected]
Sam MacNamara – 07943 887275 / Jane Morris – 07957 969708